|
Clwyd
For late entries, visit our Stop Press page

Rhuddlan Castle (© Cadw)
handlist | llawrestr pdf | doc
Conwy Programme | Raglen Conwy
Open Doors in Denbighshire
Throughout September, the Open Doors Denbighshire Group offers a look through the doors of the historic towns of Denbigh, Llangollen and Ruthin. Each weekend provides a perfect centrepiece around which to plan a short break in Denbighshire. These completely free events give you a taste of the heritage and culture of the area. Website
|
|
|
|
 |
 |
Medi 12 & 13 Sep |
Medi 19 & 20 Sep |
Medi 26 & 27 Sep |
Agor Drysau yn Sir Ddinbych
Drwy gydol mis Medi, fe fydd Grŵp Agor Drysau Sir Ddinbych yn cynnig cipolwg trwy ddrysau trefydd hanesyddol Dinbych, Llangollen a Rhuthun. Fe fydd pob penwythnos yn darparu’r canolbwynt perffaith ar gyfer cynllunio arhosiad byr yn Sir Ddinbych. Mae’r digwyddiadau yma, sydd am ddim, yn rhoi blas i chi ar dreftadaeth a diwylliant yr ardal. Gwefan
ABERGELE
St Michael’s Parish Church
Daily 10-12 To confirm, phone 01745 833132. A grade 2 listed building, the church dates from the late 13C. This double-aisled church is much longer than other Vale of Clwyd churches of this style. There is a 15C oak screen, a Jacobean pulpit, and fragments of medieval stained glass. The church chest may date to the late 12C. The tower has a peal of six bells dating from the early 18C. The Victorian lych gate is listed grade 2, and within the grounds is a memorial to those who died in the great railway disaster of 1868 (also grade 2). LOC Map LL22 7AN
Eglwys St Michael, Abergele
Pob dydd 10-12 Mae’r eglwys, sy’n adeilad rhestredig gradd 2, yn dyddio o’r 13G hwyr. Mae’r eglwys dwy ystlys yma yn llawer hirach nag eglwysi eraill Bro Clwyd o’r un steil. Mae ganddi sgrin dderw o’r 15G, yn ogystal â phulpud Jacobeaidd, a darnau o wydr lliw o’r canoloesoedd. Gallai cist y dref o bosib ddyddio o’r 12G hwyr. Mae sain chwe chloch yn y tŵr sy’n dyddio o’r 18G cynnar. Rhestrir porth Fictoraidd y fynwent fel gradd 2, ac mae cofeb o fewn y tir ar gyfer y rhai hynny a fu farw yn nhrychineb rheilffordd 1868 (gradd 2 hefyd). Mae arddangosfa ar gloddfeydd archeolegol diweddar wedi ei gynllunio. LLEO Map LL22 7AN
St George Parish Church, Church Street, Abergele
1-30 Sep 10-4 The original church dates back at least to the early 13th century. The present church was built in 1893. There are interesting hatchments from the original church. The Dinorben Mausoleum standing to the north west of the present church is a listed building. LOC Map
Eglwys Blwyf St George, Church St, St George, Abergele
1-30 Sep 10-4 Mae olion yr hen eglwys ddwy-eiliog, a ddymchwelwyd ym 1894, i’w gweld yn y fynwent. Nesaf atynt mae beddgor Dinorben. Cafodd yr eglwys bresennol ei chysegru ym 1892 ac mae nodweddion anarferol iddi. Mae’n cynnwys cofarbeisiau Hughes o 1815-1911 a’r arfbais Frenhinol o 1689-1702 (enghraifft brin William a Mary). Ym 1978 cafodd crypt ei ganfod a’i adfer. LLEO Map
CHIRK/Y WAUN

Chirk Castle
part of the Wrexham Story Programme | Rhan o raglen Stori Wrecsam
12 Sep 12-5 The National Trust is offering free entry to the castle and gardens on the 12th of September. Enjoy a conservation guided tour between 11am – 12noon; meet the room guide volunteers and learn how this fortress became a family home. Learn about the ‘future proofing’ re-securing work being undertaken and discover the green technologies being used to bring the castle into the 21st century.
Chirk Castle is a 700 year old marcher fortress, which commands fine views over the surrounding countryside. It was built in the late 13th century by Roger Mortimer, Justice of North Wales for Edward 1. The castle was sold for 5,000 UK pounds to Sir Thomas Myddelton in 1595 and his descendants continue to live in part of the castle today. This makes the castle the last Edward I Welsh castle to still be occupied. Visitors can also see the award winning gardens with a thatched ‘Hawk House’, shrub garden, lime tree avenue and yew topiary. There’s a circular woodland walk through the medieval hunting parkand the location has views over no less than nine counties. LOC Map LL14 5AF 5 miles south of Llangollen, 2 miles from Chirk Village off the A5 and A483. DIS many steps and stairs in the state rooms; three wheelchairs are available. Transfer minibus from car park to castle. Website
Castell y Waun
12 Medi 12-5 Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn cynnig mynediad am ddim i’r castell a’r gerddi ar 12fed Medi. Dewch i fwynhau taith tywys o’r gadwraeth rhwng 11yb-12yp; dewch i gwrdd â’r gwirfoddolwyr fydd yn eich tywys chi o gwmpas yr ystafelloedd, a dysgwch sut wnaeth y caer yma ddod yn gartref teuluol. Dewch i ddysgu ynghylch y gwaith ail ddiogelu ‘cadarn at y dyfodol’ sy’n cael ei wneud, a darganfyddwch y technolegau gwyrdd sy’n cael eu defnyddio i ddod â’r castell i mewn i’r 21ain ganrif.
Caer gororau 700 oed yw Castell y Waun, sydd â golygfeydd hyfryd dros y cefn gwlad sy’n ei amgylchynu. Fe’i adeiladwyd yn y drydedd ganrif ar ddeg hwyr gan Roger Mortimer,Ynad Gogledd Cymru ar gyfer Edward 1. Fe werthwyd y castell am 5,000 punt y DU i Syr Thomas Myddelton yn 1595, ac mae ei ddisgynyddion yn parhau i fyw mewn rhan o’r castell heddiw. O ganlyniad, dyma gastell Cymraeg olaf Edward I lle mae rhywun yn parhau i fyw ynddo heddiw. Gall ymwelwyr hefyd weld y gerddi ysblennydd gyda thŷ to gwellt ‘Hawk House’, gardd brysglwyni, rhodfa o goed bisgwydd a thopiari coed ywen. Mae taith gylchol drwy’r coed drwy barc hela o’r canoloesoedd, ac mae gan y lleoliad olygfeydd dros ddim llai na naw sir. LLEO Map LL14 5AF 5 milltir i’r de o Langollen, 2 milltir o Bentref y Waun oddi ar yr A5 a’r A483. ANB llawer o risiau yn yr ystafelloedd gwladol; mae tair cadair olwyn ar gael. Mae bws mini yn mynd o’r maes parcio i’r castell. Gwefan
COLWYN BAY/BAE COLWYN
Bodnant Garden
12 Sep 10-5 Free entry to this magnificent National Trust garden which covers 80 acres. Two refreshment facilities. Adjacent to Garden Centre, Craft Shops and Farm Shop. LOC Map 8 miles south of Llandudno and Colwyn Bay, off A470. From A55 exit at Junction 19. DIS Garden is steep in places, has many steps and is not easy for wheelchairs. Wheelchair route is marked on the map. Entrance to Garden is via a ramped underpass beneath the road. Motorised scooters require a fully charged battery prior to visit.
Gerddi Bodnant
12 Medi 10-5 Mynediad am ddim i’r ardd hynod yma sy’n berchen i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, sy’n gorchuddio 80 acer. Mae dau le i gael lluniaeth, sydd ger y Ganolfan Arddio, y Siopau Crefft a’r Siop Fferm. LLEO Map 8 milltir i’r de o Landudno a Bae Colwyn, oddi ar yr A470. Gadewch yr A55 ar Gyffordd 19. DIS Mae’r ardd yn serth mewn mannau, mae llawer o risiau, ac nid yw’n rhwydd i gadeiriau olwyn. Mae’r llwybr i gadeiriau olwyn wedi ei farcio ar y map. Mae’r fynedfa i’r Gerddi o lwybr gyda ramp o dan y ffordd. Mae gofyn i sgwteri modur fod wedi gwefru eu batris yn llawn cyn ymweld.
Theatr Colwyn, Colwyn Bay
Access to auditorium and backstage area by guided tours only. Saturday September 5th at 11 am. Pre-booking is essential: telephone Joann Rae on 01492 532643 (office hours Monday to Friday) Theatr Colwyn, a traditional-style, receiving, Victorian theatre, was built in 1885 as a public hall. Originally a venue for a whole host of events, ranging from church services and grand bazaars, to musical concerts, military balls and, in 1891, the first professional play was performed at the venue. Theatr Colwyn is a busy theatre and cinema, offering a wide-ranging programme of live performances, blockbuster films, art-house and independent cinema and now has a recording studio and rehearsal room. LOC Situated on Abergele Road (A547). Heading towards Old Colwyn, the theatre is situated on the left hand side, just after the Sea View Road turning. DIS For further information or details of access for the disabled please phone 01492 575571.
Theatr Colwyn, Bae Colwyn
Mynediad i’r awditoriwm a chefn y llwyfan ar deithiau tywys yn unig.11am, Dydd Sadwrn, 5 Medi. Mae’n rhaid archebu lle ymlaen llaw. Ffoniwch Joann Rae ar 01492 532643 (oriau swyddfa dydd Llun i ddydd Gwener) Adeiladwyd Theatr Colwyn, sydd bellach yn theatr dderbyn, fel neuadd gyhoeddus gydag arddull draddodiadol iddi yn 1885. Roedd yn lleoliad ar gyfer pob math o ddigwyddiadau o wasanaethau eglwysig a ffeiriau mawreddog i gyngherddau cerddorol, dawnsfeydd milwrol ac yn 1891 perfformiwyd y ddrama broffesiynol gyntaf yno. Mae Theatr Colwyn yn theatr a sinema brysur sy’n cynnig amrywiaeth eang o berfformiadau byw, y ffilmiau gorau, ffilmiau celfyddydol, arbrofol ac annibynnol ac mae ganddi bellach stiwdio recordio ac ystafell ymarfer. LOC Ar Ffordd Abergele (A547) wrth fynd tuag at Hen Golwyn o ganol y dref, mae’r theatr ar yr ochr chwith ar ôl y drofa i Sea View Road.DIS I gael rhagor o wybodaeth neu fanylion sut i gael mynediad i bobl anabl, ffoniwch 01492 575571.
CRAIG Y DON
St Paul's Church, Craig y Don
12 Sep 11-4, 13 Sep 2-4 Opened for worship in 1895 but not completed in its present form until 1901. It was built as a memorial to the Duke of Clarence, eldest son of the Prince and Princess
Of Wales (later King Edward and Queen Mary). The architect was J Oldrid Scott, son of the eminent architect Sir Gilbert Scott. The church contains a wonderful east window and a fine three manual Hill organ (listed as an historical organ). A Grade II listed building. LOC Situated on Mostyn Broadway in Craig y Don near Venue Cymru. Parking available in grounds.DIS For further information or details of access for the disabled please phone 01492 575571.
Eglwys Sant Paul, Craig y Don
12 Sep 11-4, 13 Sep 2-4 Agorwyd yr eglwys ar gyfer addoli yn 1895 ond nichwblhawyd yr adeilad ar ei ffurf bresennol hyd 1901. Adeiladwyd yr eglwys i gofio am Ddug Clarence, mab hynaf Tywysog a Thywysoges Cymru (Brenin Edward a Brenhines Mary, yn ddiweddarach). Y pensaer oedd J. Oldrid Scott, mab y pensaer enwog Syr Gilbert Scott. Mae ffenestr ddwyreiniol wych yn yr eglwys ac organ 3 chwaraefwrdd Hill gwych (wedi ei rhestru fel organ
hanesyddol). Adeilad Rhestredig Graddfa II. LLEO Mae’r eglwys ar Mostyn Broadway yng Nghraig y Don ger Venue Cymru. Gallwch barcio ar dir yr eglwys. ANB I gael rhagor o wybodaeth neu fanylion sut i gael mynediad i bobl anabl, ffoniwch 01492 575571.
DEGANWY
All Saints Church, Deganwy
12 Sep 11 - 4, 13 Sep 2-5 A Grade II* listed building built in 1899. A fine example of the work of architect John Douglas. Built by Lady Henrietta Mostyn in memory of her parents. Wonderful stained glass windows of various ages. Bells (carillon) in regular use. LOC Turn off
Station Road at the traffic lights opposite the Quay development into All Saints Avenue. The church and the car park are at the top of the hill (Vardre). DIS For further information or details of access for the
disabled please phone 01492 575571.
Eglwys yr Holl Saint, Deganwy
12 Medi 11 - 4, 13 Medi 2 - 5 Eglwys restredig Gradd II* a adeiladwyd yn 1899. Dyma enghraifft dda o waith y pensaer John Douglas. Fe’i hadeiladwyd gan Arglwyddes Henrietta Mostyn, er cof am ei rhieni. Mae yma ffenestri lliw gwych o wahanol gyfnodau. Mae’r clychau’n cael eu defnyddio’n rheolaidd. LLEO Trowch oddi ar Station Road wrth y goleuadau traffig gyferbyn a datblygiad y Cei. Mae’r eglwys a’r maes parcio ar ben y bryn (Vardre). ANB I gael rhagor o wybodaeth neu fanylion sut i gael mynediad i bobl anabl, ffoniwch 01492 575571.
DENBIGH/DINBYCH

© Copyright Tom Pennington and licensed for reuse under this Creative Commons Licence.
Denbigh Castle
12-13 Sep, 10-5 A Cadw property, Denbigh Castle is one of the fortresses that formed King Edward I’s “ring of castles”, four of which (Caernarfon, Conwy, Harlech and Beaumaris) have been named World Heritage sites. The striking ruins of Denbigh Castle, crowns a steep hill above the town with commanding views of the Vale of Clwyd and the hills of the Clwydian Range. Building for Denbigh Castle began in October 1282 after Denbigh was granted to Henry de Lacy, earl of Lincoln. At the outset, the hilltop was enclosed with stout curtain walls and half-round towers to protect the town. Further developments to the castle were restricted by the Welsh Revolt in 1294 and led to the construction of a much higher curtain wall with polygonal towers and a massive three-towered gatehouse. The castle and its defences experienced a number of tests most notably an attack by Owain Glyn Dwr in 1400 and was burned down in 1468. The castle was also affected by the War of the Roses between 1455 and 1485. Robert Dudley, who later became Lord Leicester repaired the residential parts of the castle and also erected a large new church. Denbigh Castle was held for the King by Colonel William Salesbury during the Civil War between 1642 and 1648, and after inevitable defeat, later ,in 1660, the castle was deliberately slighted and rendered useless. The castle was then left to ruin. LOC Map LL16 3NB Denbigh via A525 or A543 or B5382. Signposted from town centre. DIS Some areas of the monument are not suitable for those with mobility difficulties.
Castell Dinbych
12-13 Medi, 10-5 Yn eiddo Cadw, mae Castell Dinbych yn un o’r caerau a ffurfiodd “cylch castelli” Brenin Edward I, ac mae pedwar ohonynt (Caernarfon, Conwy, Harlech a Biwmares) wedi cael eu henwi’n safleoedd Treftadaeth y Byd. Mae gweddillion trawiadol Castell Dinbych yn gorwedd ar allt serth uwchben y dref, gyda golygfeydd hynod o Fro Clwyd a Bryniau Clwyd. Fe ddechreuwyd adeiladu Castell Dinbych ym mis Hydref 1282 ar ôl i Ddinbych gael ei ddyfarnu i Henry de Lacy, iarll Lincoln. Ar y dechrau, roedd y bryncyn wedi’i amgáu gyda waliau llenfur cryf a thyrrau crwn i amddiffyn y dref. Fe gyfyngwyd gwneud rhagor o ddatblygiadau i’r castell o ganlyniad i Wrthryfel Cymreig 1294, ac fe arweiniodd at adeiladu llenfur llawer uwch gyda thyrrau polygon a phorthdy enfawr tri thŵr. Fe wnaeth y castell a’i amddiffynfeydd wynebu nifer o brofion, yn fwyaf nodedig, ymosodiad gan Owain Glyndŵr yn 1400, ac fe’i losgwyd i’r llawr yn 1468. Hefyd, fe effeithiwyd ar y castell gan Ryfeloedd y Rhosynnau rhwng 1455 ac 1485. Fe wnaeth Robert Dudley, a ddaeth yn ddiweddarach yn Arglwydd Leicester, atgyweirio rhannau preswyl y castell a hefyd, fe adeiladodd eglwys newydd mawr. Fe gadwyd Castell Dinbych ar gyfer y Brenin gan y Cyrnol William Salesbury yn ystod y Rhyfel Sifil rhwng 1642 ac 1648, ac ar ôl trechiad anochel, yn ddiweddarach yn 1660, cafodd y castell ei ddinistrio’n fwriadol a’i adael yn ddiwerth. Yna, fe adawyd y castell i ddistrywio. LLEO Map LL16 3NB Dinbych ar hyd yr A525 neu’r A543 neu’r B5382. Mae arwyddion o ganol y dref. ANB Nid yw rhai rhannau o’r cofeb yn addas ar gyfer y rhai hynny sydd ag anawsterau symudedd.
HAWARDEN/PENARLÂG
St Deiniol’s Library, Hawarden
13 Sep, 2-5 Tours 2, 3 and 4 St Deiniol’s Library is the National Memorial to William Ewart Gladstone, four times Prime Minister. Founded in 1894, St Deiniol’s is recognised as the most important independent research library in Wales. This year the Library is celebrating the Gladstone bicentenary. LOC Map CH5 3DF DIS Ground floor accessible throughout. Web http://www.st-deiniols.com/
Llyfrgell Deiniol Sant, Penarlâg
13 Medi, 2-5 Teithiau 2, 3 a 4 Llyfrgell Deiniol Sant yw’r Gofeb Genedlaethol i William Ewart Gladstone, sydd wedi bod yn Brif Weinidog bedair gwaith. Mae Deiniol Sant, a sefydlwyd yn 1894, yn adnabyddus fel y llyfrgell ymchwil annibynnol mwyaf pwysig yng Nghymru. Eleni, mae’r Llyfrgell yn dathlu daucanmlwyddiant Gladstone. LLEO Map CH5 3DF ANB Gellir cael mynediad i’r llawr gwaelod drwy gydol yr adeilad. Gwe http://www.st-deiniols.com/
Valle Crucis Abbey | new site 2009
19, 20 Sep 10-5 (CADW) Extensive remains of Cistercian abbey founded in 1201. The church dates from the thirteenth century, and the east range of the cloister was remodelled around 1400. There is a fine collection of medieval memorial sculpture. LOC Map LL29 8DD Approximately 2 miles from Llangollen along the A542. DIS Areas of the monument are unsuited for those with mobility difficulties.
Abaty Glyn y Groes | safle newydd 2009
19, 20 Medi 10-5 (CADW) Olion helaeth abaty Sistersaidd a sefydlwyd yn 1201. Mae’r eglwys yn dyddio o’r drydedd ganrif ar ddeg, a chafodd amrediad dwyreiniol y clwysty ei ailwampio tua 1400. Mae yna gasgliad da o gerfluniau coffa o’r canoloesoedd. LLEO Map LL29 8DD Tua 2 filltir o Langollen, ar hyd yr A542. ANB. Nid yw rhai rhannau o’r gofeb yn addas ar gyfer y rhai hynny sydd ag anawsterau symudedd.
© Copyright Robert Edwards and licensed for reuse under this Creative Commons Licence.
LLANEFYDD
St Nefydd and St Marys Parish Church, Llanefydd
12, 13 Sep 10.30-4 Grade 1 double naved church of the Vale of Clwyd type. The present building dates back to c. 1500 although there are references to the church dating back as far as 1291. LOC Map LL16 5ET
Eglwys Blwyf Sant Nefydd a’r Santes Fair, Llanefydd
12, 13 Medi 10.30-4 Eglwys dau gorff gradd 1 o fath Bro Clwyd. Mae’r adeilad cyfredol yn dyddio nôl i tua 1500, er bod cyfeiriadau fod yr eglwys yn dyddio nôl cyn belled â 1291. LLEO Map LL16 5ET
LLANGERNYW
Sir Henry Jones Museum, Llangernyw
12 Sep 2-5 This museum is one of north Wales’ best kept secrets.
Visit the kitchen, small bedroom and shoemaker’s workshop where Henry Jones lived. Find out more about the history of Sir Henry, a shoemaker, teacher and good citizen. See the displays on life in a typical Welsh community during Victorian times. There is a temporary
exhibition on the history of John Lloyd, Hafodunos. LOC Directions: On A548 Abergele to Llanrwst road in the centre of Llangernyw. Follow the sign from the car park. DIS For further information or details of access for the disabled please phone 01492 575571.
Amgueddfa Syr Henry Jones, Llangernyw
12 Medi 2 - 5 Dyma un o gyfrinachau gorau gogledd Cymru. Ewch i
weld y gegin, yr ystafell wely fechan a gweithdy’r crydd. Dyma gartref Henry Jones. Cewch wybod rhagor am hanes Syr Henry, crydd, athro ysgol ac athro athroniaeth Prifysgol Glasgow. Gallwch weld arddangosfeydd am fywyd nodweddiadol ardal wledig Gymreig oes Fictoria. Mae yma arddangosfa dros dro am hanes John Lloyd,
Hafodunos. LLEO Ar ffordd yr A548 o Abergele i Lanrwst yng nghanol pentref Llangernyw. Dilynwch yr arwyddion o’r maes parcio. ANB I gael rhagor o wybodaeth neu fanylion sut i gael mynediad i bobl anabl, ffoniwch 01492 575571.
© Copyright Eirian Evans and licensed for reuse under this Creative Commons Licence.
LLANRHOS
St Hillary's Church, Llanrhos
12 Medi 11-4, 13 Medi 2-5 A church was first built on this site in the 6th Century by Maelgwn Gwynedd. The present building dates back to the 13th Century and was built by the monks of Maenan
Abbey. Although known locally as St Hilary’s it is also known as St Mary’s and also St Eleri and Mary. The church has strong links with the Mostyn family and contains memorials to both them and the Wynn’s of Conwy. LOC On B5115, Llanrhos to Deganwy road,
signposted from the A470 DIS For further information or details of access for the disabled please phone 01492 575571.
Eglwys Santes Hilari, Llanrhos
12 Medi 11-4, 13 Medi 2-5 Adeiladwyd yn wreiddiol yn y 6ed ganrif gan Faelgwn Gwynedd. Adeiladwyd yr eglwys bresennol gan fynaich
Abaty Maenan yn y 13eg ganrif. Er mai’r enw lleol arni yw Eglwys Santes Hilari, mae hefyd yn cael ei galw’n Eglwys y Santes Fair, yn ogystal ag Eglwys Santes Eleri a Mair. Mae cyswllt cryf rhwng yr eglwys â theulu Mostyn, ac mae cofebion teulu Mostyn a theulu Wynn, Conwy i’w gweld yma. LLEO Ar ffordd y B5115 Llanrhos i
Ddeganwy. Ceir arwyddion o’r A470. ANB I gael rhagor o wybodaeth neu fanylion sut i gael mynediad i bobl anabl, ffoniwch 01492 575571.
© Copyright BrianP and licensed for reuse under this Creative Commons Licence.
RHOS-ON-SEA | LLANDRILLIO YN RHOS
The Parish Church of Llandrillo-Yn-Rhos
12 Sep 10-4, 13 Sep 2-4 A Grade II* medieval church dating partly from the 12th Century. Whitewashed, it provided a landmark for vessels at sea and the west tower served as a beacon. Entering
the church through the 17th Century lych-gate note the box-graves on the left. Inside is a 13th Century font and an early 14th Century sepulchral slab with the name ‘Ednyfed’. Note also the grave of Officer Lowe, hero of the Titanic. LOC On Llandudno Road at Rhos-on-Sea. There is a car park adjacent. DIS For further information or details of access for the disabled please phone 01492 575571.
Eglwys y Plwyf, Llandrillo-yn-Rhos
12 Medi 10-4, 13 medi 2-4 Eglwys ganoloesol Gradd II*, sy’n dyddio’n rhannol o’r 12fed ganrif. Wedi’i gwyngalchu, ‘roedd yn dirnod ar gyfer llongau ar y môr ac roedd y t?r gorllewinol yn cael ei ddefnyddio fel goleufa. Wrth fynd i mewn i’r eglwys drwy borth y fynwent, (sy’n dyddio o’r 17eg ganrif) sylwch ar y beddau blwch ar y chwith. Y tu mewn i’r eglwys, cewch weld bedyddfaen o’r 13eg ganrif, a slab beddrodol o ddechrau’r 14eg ganrif, gyda’r enw “Ednyfed” arno. Sylwch hefyd ar fedd y Swyddog Lowe, arwr y Titanic. LLEO Ar Ffordd Llandudno, Llandrillo-yn- Rhos. Mae maes parcio gerllaw. ANB I gael rhagor o wybodaeth neu fanylion sut i gael mynediad i bobl anabl, ffoniwch 01492 575571.
© Copyright Dot Potter and licensed for reuse under this Creative Commons Licence.
RHUDDLAN
Rhuddlan Castle | new site 2009
5-6 Sep, 10-5 (CADW) Ruinous castle of Edward I on the banks of the River Clwyd featuring concentric walls within walls plan, having two parallel lines of defence. The outer ward is surrounded on three sides by a dry moat. On the fourth it originally extended down to the river where there was a protected dock. The diamond shaped inner ward is symmetrical in layout with two opposing twin-towered gatehouses and a single tower at each of the remaining corners. LOC Map LL18 5AD To Rhuddlan via A525 or A457 DIS Areas of the monument are unsuitable for those with mobility difficulties.
Castell Rhuddlan | safle newydd 2009
5-6 Medi, 10-5 (CADW) Olion castell Edward I ar lannau Afon Clwyd yn cynnwys waliau consentrig o fewn cynllun y waliau. Mae ganddo ddwy linell amddiffyn gyflinellol. Mae ffos sych ar dair ochr y wal allanol. Ar y bedwaredd ochr, roedd yn ymestyn at yr afon lle'r oedd doc yn cael ei amddiffyn. Mae gosodiad y cwrt mewnol siâp diemwnt yn gymesur gyda dau borthdy gyda dau dŵr yr un yn wynebu’i gilydd, a thŵr sengl ar y ddwy gornel arall. LLEO Map LL18 5AD I Ruddlan, ar hyd yr A525 neu’r A457. ANB Nid yw rhai rhannau o’r gofeb yn addas ar gyfer y rhai hynny sydd ag anawsterau symudedd.
RHYL

Bodelwyddan Castle: Tour of Historic Gardens | new site 2009
3, 10, 17, 14 September, guided tours at 2pm Bodelwyddan Castle is a splendid Victorian House, set in 260 acres of beautiful parkland. Visitors will be given a guided tour of the historic gardens. Please note that booking is essential and admission fees to the house still apply. Free entry to café, shop and craft area. Bookings can be made at the booking team on 01745 584060. LOC Map DIS Some areas not suitable for wheelchair, small steps. Sturdy footwear required.
Castell Bodelwyddan: Teithiau o’r Gerddi Hanesyddol
3, 10, 17, 14 Medi, teithiau tywys am 2yh Tŷ Fictoraidd hyfryd yw Castell Bodelwyddan, sydd wedi’i osod mewn 260 acer o barctir prydferth. Fe fydd ymwelwyr yn cael taith tywys o’r gerddi hanesyddol. Noder os gwelwch yn dda, fod angen bwcio a bod ffioedd mynychu i’r tŷ. Mynediad am ddim i’r caffi, siop a’r man crefftau. Gellir bwcio trwy’r tîm bwcio trwy ffonio 01745 584060. LLEO Map ANB Nid yw rhai ardaloedd yn addas i gadeiriau olwyn, grisiau bychain. Mae angen esgidiau cadarn.
© Copyright Dot Potter and licensed for reuse under this Creative Commons Licence.
RUABON
St Mary’s Church
5, 12, 19, 26 Sep 1-5 Grade I listed church on a pre-Norman site; possibly a 7c foundation. The building has significant surviving medieval detail including the 14c Cheshire tower, sepulchral monuments, and a magnificent early 15c wall painting depicting the works of mercy. There is also an important group of monuments relating mainly to the Wynnstay family. Important and exquisite font designed by Robert Adam and presented by Sir Watkins Williams Wynn in 1772. Now part of the Open Church network. LOC Map
Eglwys Santes Fair
5, 12, 19, 26 Medi 1-5 Adeiladwyd yr eglwys restredig gradd I hon ar safle cyn-Normanaidd, o bosib yn fedyddfaen o’r 7G. Mae cryn nifer o fanylion canoloesol pwysig yma o hyd, yn cynnwys tŵr o’r 14G yn null Swydd Gaer, cofebion claddu, a murlun hynod o’r 15G sy’n dangos gweithiau trugaredd. Mae hefyd grŵp pwysig o henebion sy’n gysylltiedig yn bennaf i deulu Wynnstay. Bedyddfaen bwysig a rhagorol a ddyluniwyd gan Robert Adam ac a gyflwynwyd gan Syr Watkins Williams Wynn yn 1772. Nawr yn rhan o’r Rhwydwaith Eglwysi Agored. LLEO Map
RUTHIN
St Mary, Derwen
5, 6, 12, 13, 19, 20, 26, 27 Sep 9-7 Derwen Church passed to the Friends of Friendless Churches in 2001/2 following a declaration of redundancy. It is principally renowned for its medieval rood screen and its arched-braced roof also of the late medieval period. It retains a font dated 1665 and two good Victorian stained glass windows, the second from the east on the south side being designed by H.E. Wooldridge and made by James Powell & Sons in 1869. The external double western bell-cote is dated 1688. In the churchyard you will notice a very fine mid or late fifteenth century churchyard cross depicting the coronation of the Virgin, the Crucifixion, the Virgin and the Child and an angel with scales assumed to be St Michael. The cross, the churchyard and the lychgate with schoolroom above are still the responsibility of the parish and are not owned by the Friends. St Mary's is listed Grade I. LOC Easily found in village centre.
Eglwys Santes Fair, Derwen
5, 6, 12, 13, 19, 20, 26, 27 Medi 9-7 Fe basiwyd Eglwys Derwen i’r Cyfeillion yn 2001/-2 ar ôl datganiad o ddiswyddiad. Yn bennaf, mae hi’n adnabyddus am ei chroglen o’r canoloesoedd a’i tho mewn siâp bwa sydd hefyd o’r cyfnod canoloesol hwyr. Mae ganddi hefyd fedyddfaen sy’n dyddio o 1665, a dwy ffenestr lliw da o’r oes Fictoraidd, ble y cafodd yr ail o’r dwyrain ar yr ochr deheuol ei dylunio gan H.E. Wooldridge a’i gwneud James Powell & Sons yn 1869. Mae’r cwt clychau gorllewinol dwbl allanol yn perthyn i 1688. Yn y fynwent fe welwch groes fynwent gain iawn o ganol neu ddiwedd y bymthegfed ganrif yn darlunio coroni’r Forwyn, y Croeshoeliad, y Forwyn a’r Plentyn ac angel gyda chlorian y tybir mai Sant Mihangel ydyw. Mae’r groes, y fynwent a phorth y fynwent gyda’r ystafell ysgol uwch ei ben o hyd yn gyfrifoldeb y plwyf ac nid ydynt yn eiddo i’r Cyfeillion. Mae’r Santes Fair yn rhetredig Gradd I. LLEO Rhwydd dod o hyd iddi yng nghanol y pentref
ST ASAPH

Dolbelydr, Trefnant
11-14 Sep 10-4, 15 Sep 10-1 Dolbelydr is a 16th Century house in a remote location near St. Asaph, in the ownership of the Landmark Trust. The house is a fine example of a Tudor gentry house. It also has a good claim to be the birthplace of the modern Welsh language as it was at Dolbeldyr that Henry Salesbury wrote his Grammatica Britannica, the first Welsh grammar. Dolbelydr would have been a house of considerable status, built of well-dressed limestone and with tall chimneys. Analysis of the timbers dates its construction to ca 1578 and for this date its plan is transitional. The end chimneys and primary spiral staircase would have been considered innovatory, as would the rectangular entrance hall with its plank and muntin screen (rather than the more usual cross passage arrangement). Dolbelydr gradually declined in status through the years and underwent various alterations. It stood empty from around 1912. Now beautifully restored by the Landmark Trust which has given the property a new future by offering it for holidays. LOC Map LL16 5AG Dolbeldyr is located about 2 miles west of Trefnant. Take B5428 from Trefnant towards Henllan. Turn R down private lane to Bryn Wgan far, just after you pass (L) a gateway and small lodge. Follow lane and just before farmyard take track through gate to Dolbelydr. DIS Entry through the right hand door where a ramp is available.
Dolbelydr, Trefnant
11-14 Medi 10-4, 15 Medi 10-1 Tŷ o’r 16eg Ganrif yw Dolbelydr mewn lleoliad anial ger Llanelwy, sy’n berchen i’r Landmark Trust. Mae’r tŷ yn esiampl hynod o dŷ bonedd o gyfnod y Tuduriaid. Hefyd, mae ganddo hawliad da i fod yn fan geni’r iaith Gymraeg fodern, gan mai yn Nolbelydr yr ysgrifennodd Henry Salesbury ei Grammatica Britannica, y llyfr gramadeg cyntaf yn y Gymraeg. Byddai Dolbelydr wedi bod yn dŷ o gryn statws, wedi’i adeiladu o gerrig wedi’u naddu’n dda a gyda simneiau uchel. Dengys dadansoddiad o’r coed iddo gael ei adeiladu tua 1578 ac, yn y cyfnod hwn, roedd ei gynllun yn un trawsnewidiol. Byddai simneiau’r talcenni a’r prif risiau troellog wedi cael eu cyfrif yn arloesol ac felly hefyd, y cyntedd petryal gyda’i sgrin planciau a mwntin (yn hytrach na’r trefniant cyntedd croes arferol). Fe wnaeth Dolbelydr ddirywio’n raddol o ran statws drwy’r blynyddoedd, ac fe wnaethpwyd sawl addasiad iddo. Fe fu’n wag o tua 1912. Erbyn heddiw, mae wedi cael ei adfer yn wych gan y Landmark Trust, sydd wedi rhoi dyfodol newydd i’r tŷ drwy ei osod ar gyfer gwyliau. LLEO Map LL16 5AG Mae Dolbelydr wedi ei leoli tua 2 milltir i’r gorllewin o Drefnant. Cymrwch y B5428 o Drefnant tuag at Henllan. Trowch Dd, ac ewch i lawr llwybr preifat cyn belled â Bryn Wgan, yn syth ar ôl i chi basio (Ch) giât a phorthdy bychan. Dilynwch y llwybr, a’n union cyn yr iard fferm, dilynwch y trac trwy’r giât i Dolbelydr. ANB Mae’r mynediad trwy’r drws sydd ar yr ochr chwith, ac mae ramp ar gael.
ST GEORGE
St George Parish Church, St George
12, 13 Sep 9-5 The remains of the old double aisled church, demolished in 1894, can be seen in the churchyard and adjacent to
them is the Dinorben Mausoleum. The existing church, situated to the east of the original church, was consecrated in 1893. It is of an unusual character and contains Hughes hatchments of 1815 – 1911 and the Royal Arms of 1689 – 1702, a rare William and Mary type. In 1978 a crypt was discovered and restored. LOC From St Asaph: leave the A55 at junction 24A, turn left onto Primrose Hill, turn right into Church Street and the church is on the right. From Colwyn Bay:
leave the A55 at junction 24. Take first exit at roundabout. Turn right (signed St George). Pass houses and turn right. At crossroads turn left, follow the road into village. The church is on the left. DIS For further information or details of access for the disabled please phone 01492 575571.
Eglwys y Plwyf, Llan San Siôr
12, 13 Medi 9-5 Mae olion yr hen eglwys gangell ddwbl, a gafodd ei
dymchwel yn 1894, i’w gweld yn y fynwent. Gallwch hefyd weld beddrod Dinorben yn agos at yr olion hyn. Cysegrwyd yr eglwys bresennol, sydd i’r dwyrain o’r eglwys wreiddiol, yn 1893. Mae’n eglwys anarferol ac mae’n cynnwys arfbeisiau Hughes 1815-1911 ac Arfbais Frenhinol 1689 -1702 prin, William a Mary. Darganfuwyd claddgell yn 1978, ac fe’i hadferwyd. LLEO O Lanelwy, dylech adael yr A55 yng nghyffordd 24A, troi i’r chwith i Primrose Hill a throi i’r dde i Church Street. Mae’r eglwys ar y dde. O Fae Colwyn, dylech adael yr A55 yng nghyffordd 24 a chymryd yr allanfa gyntaf wrth y gylchfan. Trowch i’r dde, (arwydd Llan San Siôr) ewch heibio’r tai a throi i’r dde. Trowch i’r chwith wrth y groesffordd a dilynwch y ffordd
i’r pentref. Mae’r eglwys ar y chwith. ANB I gael rhagor o wybodaeth neu fanylion sut i gael mynediad i bobl anabl, ffoniwch 01492 575571.
WREXHAM/WRECSAM
In Wrexham the Wrexham Story is developing an Open Doors programme, bringing together new and established sites in an exciting way.
Yn Wrecsam, mae Stori Wrecsam yn datblygu rhaglen Agor Drysau, sy’n dod â safleoedd newydd a rhai sefydledig at ei gilydd mewn ffordd gyffrous.
Caer Alyn Hill Fort, Gresford | new site 2009
5 Sep 11-2 Visitors will be able to see the archaeological work being undertaken by the Caer Alyn Heritage Project and visit the Iron Age promontory fort and Bronze Age tumulus on the site. There will be guided tours of the site, a display of young archaeologists’ activities and an opportunity to see the on-going construction of a round-house. LOC The event is at Alyn Lodge, which is about one mile south of Llay, just off the B5425 Wrexham road. Travelling south towards Wrexham take the first turn left after Llay cemetery into Pont-y-Capel lane. The event will be signposted. DIS The site is open grassy fields and therefore wheelchair access is difficult.
Bryngaer Caer Alyn, Gresford | safle newydd 2009
5 Medi 11-2 Fe fydd ymwelwyr yn gallu gweld y gwaith archeolegol sy’n cael ei gynnal gan Brosiect Treftadaeth Caer Alyn, ac ymweld â’r caer pentir o Oes yr Haearn a’r crugiau o’r Oes Efydd ar y safle. Fe fydd teithiau tywys yn cael eu cynnal o’r safle, arddangosfa o weithgareddau archeolegwyr ifanc, ac fe fydd cyfle i weld adeiladwaith parhaus o dŷ crwn. LLEO Fe fydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ym Mhorthdy Alyn, sydd tua milltir i’r de o Llay, yn union oddi ar y B5425 ffordd Wrecsam. Wrth deithio tua’r de tuag at Wrecsam, cymrwch y troad cyntaf i’r chwith ar ôl mynwent Llay i mewn i lôn Pont-y-Capel. Fe fydd y digwyddiad wedi’i arwyddo. ANB Caeau agored,glaswelltog yw’r safle ac felly, mae mynediad i gadeiriau olwyn yn anodd.
Erddig Hall and Gardens
12 Sep 11-5 A National Trust site, this atmospheric house and estate, vividly evokes its family and servants. A unique insight into servants' life in the 18th and 19th century in a completely furnished 18th-century large country house. One of the last surviving 18th-century gardens with a large walled garden and Victorian parterre. Extensive designed parkland and 13 miles of footpaths. LOC map LL13 0YT 2m S of Wrexham, signposted off A525 or A483/A5152 DIS Good access with specially designed pathways, hearing loop, lift to restaurants, toilets. Access to house is limited to lower floors, though there is an award winning virtual tour. Web http://www.nationaltrust.org.uk/main/w-erddig
Neuadd a Gerddi Erddig
12 Medi 11-5 Yn safle’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, mae’r tŷ a’r ystâd atmosfferig yma yn mynd â phobl yn ôl mewn amser go iawn i gofio am ei deulu a’i weision. Cipolwg unigryw i mewn i fywyd gweision yn y 18fed a 19eg ganrif mewn tŷ gwledig mawr o’r 18fed ganrif, sydd wedi’i ddodrefnu’n llawn. Un o’r gerddi olaf sy’n dal i oroesi o’r 18fed ganrif, gyda gardd fawr a wal o’i chwmpas a lloriau Fictoraidd. Parctir helaeth, a 13 milltir o lwybrau troed. LLEO map LL13 0YT 2m Dd o Wrecsam, wedi’i arwyddo oddi ar yr A525 neu’r A483/A5152 ANB Mynediad da gyda llwybrau troed sydd wedi’u dylunio’n arbennig, cymorth clywedol, lifft i’r bwytai, toiledau. Mae mynediad i’r tŷ ar ogwydd i’r lloriau is, er bod taith rithwir ar gael sydd wedi ennill gwobr. Gwe http://www.nationaltrust.org.uk/main/w-erddig
Holt Pageant & Community Heritage Day, The Cross, Kenyon Hall, Church and Castle | new site 2009
19 Sep 10.30-4 Civil War re-enactment group including cannon, skirmish, living history encampment demonstrations and displays. To be opened by Oliver Cromwell. Local History Society displays, street sellers, hog roast, village stocks, falconry display, archery, fun and games for all the family. The soldiers will march at 10.30am from St Chad’s Church, Holt, to the cross to oversee the opening of the event by Oliver Cromwell (himself) and the Mayor of Wrexham. Contact: Free event for further information contact Karen Harris at Northern Marches Cymru (01978 298383)
(This is a Community Heritage event supported by Northern Marches Cymru as part of the Rural Development plan for Wales.) LOC Map The Cross, Kenyon Hall, Church and Castle, Holt.
Pasiant Holt yn ymgorffori Diwrnod Treftadaeth Gymunedol, Y Groes, Neuadd Kenyon, Yr Eglwys a’r Castell | safle newydd 2009
19 Medi 10.30 – 4 Grŵp ail-greu’r Rhyfel Cartref gan gynnwys gwn mawr, ysgarmes, arddangosiadau gwersyll hanes byw ac arddangosfeydd. I’w agor gan Oliver Cromwell. Arddangosfeydd y Gymdeithas Hanes Lleol, gwerthwyr stryd, rhostio mochyn, cyffion pentref, arddangosfa hebogyddiaeth, saethyddiaeth, hwyl a gemau i’r teulu i gyd. Bydd y milwyr yn gorymdeithio am 10.30am o Eglwys Sant Chad, Holt, i’r groes i oruchwylio agor yr achlysur gan Oliver Cromwell (ei hun) a Maer Wrecsam. LLEO Map Y Groes, Neuadd Kenyon, Yr Eglwys a’r Castell.
Holt Pageant & Community Heritage Day, Holt Castle | new site 2009
19 Sep 11.30 “A long ago history of Holt Castle Quarry“ by Professor Cynthia Burek, Centre for Science Communication, University of Chester. Holt Castle Quarry is a RIGS site and as such has protection under the planning system. Why is it so important? What are the clues it tells us about past times? Come for a walk around the quarry and see for yourself the fascinating history that the rocks can tell us about a time before the dinosaurs. Why are the rocks red? What are the funny shapes we can see? This is a light hearted look at the geodiversity of the site underpinning Holt Castle. LOC Map DIS PLACES LIMITED BOOKING ESSENTIAL, contact Karen Harris 01978 298383. Sensible footwear recommended.
Pasiant Holt – Diwrnod Treftadaeth Gymunedol | safle newydd 2009
19 Med 11.30 “Hanes Chwarel Castell Holt ers talwm” gan yr Athro Cynthia Burek, Canolfan Cyfathrebu Gwyddoniaeth, Prifysgol Caer. Mae Chwarel Castell Holt yn safle RIGS ac, fel y cyfryw, cafodd ei diogelu dan y gyfundrefn gynllunio. Pam ei bod mor bwysig? Beth yw’r cliwiau sydd ganddi i’w dweud wrthym am yr amser a fu? Dewch am dro o gwmpas y chwarel a gweld drosoch eich hun yr hanes cyfareddol sydd gan y creigiau i’w ddweud wrthym am gyfnod cyn y dinosoriaid. Pam fod y creigiau’n goch? Beth yw’r siapiau digrif a welwn? Golwg ysgafngalon yw hon ar geoamrywiaeth y safle sy’n sail i Gastell Holt. LLEO Map ANB Lleoedd yn gyfyngedig a rhaid cadwille. Cysylltwch a Karen Harris ar 01978 298383. Dylid gwisgo esgidiau call.
Holt Pageant & Community Heritage Day, Kenyon Hall | new site 2009
19 Sep 7pm Talk on Holt Castle by Julian Baum of Take27; “Holt Castle, it’s past, present and future”. An informative and thought-provoking journey into the design of Holt Castle and its setting in the landscape, using digital images to show its appearance in the past, present and future. Tea/coffee, glass of mead nibbles included. Seating limited to 120, so first come, first served. LOC Map DIS Tickets are available from Marlene Ayling on 01978 852938. This talk may not be suitable for younger children. Children are welcome but adults must be aware that the content of the talk may not keep children entertained!
Pasiant Holt – Diwrnod Treftadaeth Gymunedol, Darlith ar Gastell Holt yn Neuadd Kenyon, Holt | safle newydd 2009
19 Medi 7 Darlith gan Julian Baum o Take27; “Castell Holt, ei orffennol, ei bresennol a’i ddyfodol” Taith sy’n addysgiadol ac yn ysgogi meddwl i gynllun Castell Holt a’i leoliad yn y dirwedd, gan ddefnyddio delweddau digidol i ddangos ei olwg yn y gorffennol, heddiw ac yn y dyfodol. Yn cynnwys te / coffi, gwydryn o fedd a danteithion. Maelle’n gyfyngedig i 120 – felly “y cyntaf i’r felin gaiff falu”. LLEO Map ANB Tocynnau ar gael oddi wrth Marlene Ayling: Ffôn: 01978 852938. Efallai nad yw’r ddarlith hon yn addas i blant iau. Mae croeso i blant ond dylai oedolion fod yn ymwybodol nad yw cynnwys y ddarlith yn debygol o ddiddanu plant!
Holt Pageant & Community Heritage Day Presbyterian Church, Holt| new site 2009
19 Sep 10 – 4 “Poems praise and thanksgiving for Harvest” with an exhibition in the Hall of “ Holt through the Ages”.
Pasiant Holt – Diwrnod Treftadaeth Gymunedol, Eglws Bresbyteraidd | safle newydd 2009
19 Medi 10 – 4 “Cerddi, mawl a diolchgarwch am y Cynaeafu” gydag arddangosfa yn y Neuadd o “Holt drwy’r Oesoedd”
© Copyright Peter Craine and licensed for reuse under this Creative Commons Licence.
Ceiriog Memorial Instute | new site 2009
5, 12, 19 Sep 10 – 4 Construction was completed in 1911 of this grade 11 listed building which has recently undergone extensive refurbishment and contains some beautiful stained glass windows. The collection was originally brought together by the efforts of Sir Alfred T Davies advisor to Lloyd George. This rare collection commemorates notable Welsh people and many local and historical artefacts of interest. LOC Map
Neuadd Goffa Ceiriog | safle newydd 2009
5, 12, 19 Medi 10 – 4 Gorffennwyd adeiladu’r adeilad rhestredig Gradd II hwn yn 1911, cafodd ei ailwampio’n helaeth yn ddiweddar ac mae’n cynnwys rhai ffenestri gwydr lliw hardd. Ymdrechion Syr Alfred T Davies, cynghorwr i Lloyd George, ddaeth â’r casgliad at ei gilydd yn wreiddiol. Mae’r casgliad prin hwn yn coffáu Cymry nodedig ac mae ynddo lawer o arteffactau lleol a hanesyddol o ddiddordeb. LLEO Map
Church House, Gresford | new site 2009
20 Sep 12 – 6 Church House was established following a gift of £500 from Dame Margaret Strode in 1715, for the education of 3 poor boys and 3 poor girls from the parish of Gresford. Over time the premises, like Topsy, grew, and the renovated building now provides excellent facilities within the Grade II listed building for the local and wider community. Cream teas will be served on the afternoon of Sunday 20th September to visitors in celebration of the renovation of Church House Gresford.LOC Map
Ty’r Eglwys, Gresffordd | safle newydd 2009
20 Medi 12 – 6 Sefydlwyd Tŷ’r Eglwys yn dilyn rhodd o £500 oddi wrth y Fonesig Margaret Strode yn 1715, ar gyfer addysg 3 o fechgyn tlawd a 3 o ferched tlawd o blwyf Gresffordd. Dros gyfnod, tyfodd yr eiddo ac mae’r adeilad a adnewyddwyd bellach yn darparu cyfleusterau rhagorol i’r gymuned leol ac ehangach yn yr adeilad rhestredig Gradd II. Bydd te hufen yn cael ei weini ar brynhawn Sul 20fed Medi i ymwelwyr i ddathlu adnewyddu Tŷ’r Eglwys, Gresffordd. LLEO Map
The Coal forests of North Wales | new site 2009
1 Sep 7pm An evening lecture at Glyndwr University. This will be presented by Barry Thomas on the subject of the ‘Coal Forests of North Wales’ and is particularly relevant to the tour in view of the famous petrified forest recently discovered at Brymbo. LOC map DIS CONTACT Places are limited and anyone interested in this event should provide their contact details to Dawn Lambert at Wrexham Museum on 01978 317972
Coedwigoedd glo gogledd Cymru | safle newydd 2009
1 Medi 7 Darlith nos ym Mhrifysgol Glyndŵr. Bydd hon yn cael ei chyflwyno gan Barry Thomas ar destun ‘Coedwigoedd Glo Gogledd Cymru’ ac mae’n arbennig o berthnasol i’r gylchdaith o ystyried y goedwig garegaidd enwog a ddarganfuwyd yn ddiweddar ym Mrymbo. LLEO map DIS CYSWLLT: Mae lleoedd yn gyfyngedig a dylai pawb sydd â diddordeb yn yr achlysur hwn roi eu manylion cysylltu i Dawn Lambert yn Amgueddfa Wrecsam ar 01978 317972.
|
MENU
|