|
Swansea Open House programme
Rhaglen Tŷ Agored Abertawe
GLAMORGAN
For late entries, visit our Stop Press page

The Paget Rooms, Penarth, by John Coates Carter (© Matthew Griffiths)
handlist | llawrhestr pdf | doc
ABERDARE/ABERDÂR
Penderyn Distillery | new site 2009
Daily 9.30-5 BOOK Note that booking is essential and the last tours will take place at 3.30pm. Bookings can be made on 01685 810651 or visit www.penderyn-distillery.co.uk (quote 'Open Doors'). Guided tours of the Welsh Whisky distillery which won the RIBA 2009 Award for architectural excellence. Learn about the history of whisky making in Wales as well as more general Welsh history in the exhibition centre and see the still and bottling line in action producing one of the world’s finest single malt whiskies. LOC CF44 0SX map
Distyllfa Penderyn | safle newydd 2009
Pob dydd 9.30-5 BWCIO Mae angen bwcio ac fe fydd y teithiau olaf yn cael eu cynnal am 3.30yh. Gellir bwcio drwy ffonio 01685 810651 neu ewch i www.penderyn-distillery.co.uk (dyfynnu 'Drysau Agored'). Teithiau tywys o ddistyllfa Wisgi Cymreig a enillodd Wobr Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain 2009 ar gyfer rhagoriaeth bensaernïol. Dysgwch am hanes gwneud wisgi yng Nghymru yn ogystal ag am hanes mwy cyffredinol am Gymru yn y ganolfan arddangos, a gwelwch y distyllyr a’r llinell botelu yn gweithio i gynhyrchu un o’r wisgi brag sengl gorau yn y byd. LLEO CF44 0SX map
Cynon Valley Museum and Gallery | new site 2009
12 September, Three tours of the museum: 10am, 12noon, 4pm Beyond the Gallery – Behind the scenes at the museum; a tour of the stores containing artefacts not on open display. Talk by the county collection manager on how artefacts are conserved, stored and displayed. Photographic exhibition, 10% discount at café for Open Doors visitors. LOC map DIS restricted wheelchair access.
Amgueddfa ac Oriel Cwm Cynon | safle newydd 2009
12 Medi, Tair taith o’r amgueddfa: 10yb, hanner dydd, 4yh Beyond the Gallery - Behind the scenes at the museum; nid yw taith o’r mannau sy’n cynnwys arteffactau ar agor i’w harddangos. Sgwrs gan reolwr casgliad y sir ar sut mae arteffactau’n cael eu cadw, eu storio a’u harddangos. Arddangosfa ffotograffig, gostyngiad o 10% yn y caffi i ymwelwyr Agor Drysau. LLEO map ANB mynediad wedi’i gyfyngu i gadeiriau olwyn.
Aberdare Library | new site 2009
29 Sep Guided tours 'Behind the Books' at 10 and 2 The event comprises a tour of the library, giving visitors and opportunity to see behind the scenes of a busy library with information on the local studies archives, digitisation department and mobile library service. Booking is advisable on 01685 880060. LOC map DIS Restricted wheelchair access on some parts of the tour.
Llyfrgell Aberdâr | safle newydd 2009
29 Medi Teithiau tywys 'Tu ôl i’r Llyfrau' am 10 a 2 Fel rhan o’r digwyddiad, ceir taith o’r llyfrgell, sy’n rhoi cyfle i ymwelwyr gael cipolwg tu ôl i lenni llyfrgell brysur, ac sy’n rhoi gwybodaeth am yr astudiaethau lleol a’r archifau, am yr adran ddigideiddio ac am y gwasanaeth llyfrgell symudol. Dylid bwcio drwy ffonio 01685 880060. LLEO map ANB Mynediad wedi’i gyfyngu i gadeiriau olwyn ar rhai rhannau o’r daith.
BARRY/Y BARRI

Dyffryn Gardens, nr Barry
19, 20 Sep 11-6 Beautiful Grade I Edwardian gardens, set in the heart of the Vale of Glamorgan countryside 5 miles from Barry and close to Cardiff and the M4. The 55-acre gardens are the result of a unique collaboration between the eminent landscape architect, Thomas Mawson, and the passionate plant collector Reginald Cory. LOC map CF5 6SU DIS Sturdy footwear is advised; the majority of gardens are accessible to wheelchair users.
Gerddi Dyffryn, ger Y Barri
19, 20 Medi 11-6 Gerddi Edwardaidd hyfryd Gradd I, sydd wedi’u gosod yng nghanol cefn gwlad Bro Morgannwg, 5 milltir o’r Barri a’n agos i Gaerdydd a’r M4. Canlyniad yw’r gerddi 55 acer o gydweithrediad unigryw rhwng y pensaer tirwedd enwog, Thomas Mawson, a’r casglwr planhigion Reginald Cory. Lawntiau gwych, borderi llysieuol, gerddi gardd thematig, coedfa wedi’i hen sefydlu. Arddangosfa gelf gan Grŵp Celfyddydau Bro Morgannwg a ffair henebion a chasglyddion. LLEO map CF5 6SU ANB Mae angen cael esgidiau cadarn; gall defnyddwyr cadeiriau olwyn gael mynediad i’r mwyafrif o’r gerddi.
St Mary’s Church, Bonvilston
5, 12, 19, 26 Sep 10-4 Late medieval tower and Tudor belfry; Victorian nave and chancel, preserving Perpendicular chancel arch, in confident Early English style by Prichard and Seddon. Fine font c 1200. Good 19c glass. LOC map ST 06464 74018
Eglwys Santes Fair, Tresimwn
5, 12, 19, 26 Medi 10-4 Tŵr o ddiwedd y canoloesoedd a chlochdy Tuduraidd; corff a changell Fictoraidd, yn cadw bwa cangell Berpendicwlar, mewn arddull hyderus Seisnig Cynnar gan Prichard a Seddon. Bedyddfan goeth, tua 1200. Gwydr da o’r 19G. LLEO map ST 06464 74018
CARDIFF/CAERDYDD
Broadcasting House
Tours 12 Sep 9.30, 11.30, 1.30 Designed by Dale Owen of the Percy Thomas Partnership and opened by Princess Margaret in 1967, Broadcasting House is the hub of BBC Wales. Tours will feature the main TV and radio studios as well as the Wales Today/Newyddion set. We will also be showing a short film on the construction of the building. Note that booking is essential. To book your place on a tour, e-mail wales.opendoors[at]bbc.co.uk giving your name and contact number, the time of the tour you would like to join and the number of people in your group. All participants must be twelve or over. Numbers are limited. For more information call 03703 500 700. LOC map CF5 2YQ DIS There are no access issues, but participants need to inform us of any mobility or health problems that might arise for us to accommodate them.
Y Tŷ Darlledu
Teithiau 12 Medi 9.30, 11.30, 1.Wedi’i ddylunio gan Dale Owen o Percy Thomas Partnership a’i agor gan Y Dywysoges Margaret yn 1967, Y Tŷ Darlledu yw corf BBC Cymru. Bydd teithiau’n cynnwys y prif stiwdios teledu a radio, yn ogystal â set Wales Today/Newyddion. Byddwn ni hefyd yn dangos ffilm fer ar adeiladu’r adeilad.Fel rhan o’r daith, byddwch chi hefyd yn cael mynd am dro drwy "Cwm Deri", lleoliad ffug Pobl y Cwm, sy’n cael ei ffilmio yng nghanol y tŷ darlledu. I fwcio eich lle ar daith, anfonwch e-bost at wales.opendoors[at]bbc.co.uk gan roi eich enw a’ch rhif cyswllt, amser y daith yr hoffech chi fynd arni a nifer y bobl yn eich grŵp. Mae rhaid i bawb sy’n cymryd rhan fod yn ddeuddeg mlwydd oed neu drosodd. Nid oes llawer o lefydd ar gael. Am fwy o wybodaeth, ffoniwch 08703 500 700. LOC map CF5 2YQ ANB Nid oes unrhyw faterion o ran mynediad, ond mae angen i’r rhai hynny sy’n cymryd rhan i roi gwybod i ni am unrhyw broblemau o ran symudedd neu iechyd a allai godi, er mwyn i ni ddelio â nhw.
The Llandaff Walk, Cardiff
New date
19 September 10.30 – 2.30 A circular tour of the conservation area starting at St Michaels College, negotiating the streets of the medieval settlement to the Cathedral and Bishop’s Castle and terminating at the Chapel of the former Bishop’s Palace, now within Llandaff Cathedral School. Please note that booking is essential as numbers are limited. Booking essential on telephone 02920 563181. LOC Meet at St Michael’s College, Llandaff DIS Contact organiser on 02920 563181for information.
Cerdded Llwybr Llandaf, Caerdydd
Newid dyddiad
19 Medi 10.30, 2.30 (Cymdeithas Llandaf) Taith gylchol o’r ardal gadwraeth sy’n cychwyn o Goleg Mihangel Sant, ac sy’n mynd ar hyd y strydoedd canoloesol i’r Eglwys Gadeiriol, ac sy’n diweddu yng nghapel Palas yr Esgob gynt, sydd nawr tu fewn i Ysgol yr Eglwys Gadeiriol, Llandaf). Noder fod rhaid bwcio gan nad oes llawer o lefydd ar gael. I fwcio, ffoniwch 02920 563181. LLEO Cyfarfod yng Ngholeg Mihangel Sant, Llandaf. ANB Cysylltwch â’r trefnydd ar 02920 563181 am wybodaeth.
© Copyright Colin Smith and licensed for reuse under this Creative Commons Licence.
Llandaff Cathedral
19 Sep tour 11, talk 12 The Friends of Llandaff Cathedral present a guided tour through 900 years of history, architecture and people at Llandaff Cathedral with the historian Arthur Impey, followed by an update on the 21st century organ currently under construction with Richard Moorhouse, Cathedral organist and Master of the Choristers.
The Cathedral retains fine medieval work, despite its history of ruin and reconstruction. On the site of a Celtic clas church, Norman work dates from Bishop Urban’s time (1107-33) Bishop Urban (1107-33) began the present building. To him and to his immediate successors are owed the fine round arch behind the high altar, and the N and S doors. The nave and W front, S tower and chapter house are 13c. The Lady chapel is L13c, the N (or “Jasper”) tower, Tudor. After the Reformation the Cathedral fell into decline; in the 18th century John Wood attempted a classical remodeling. The structure was restored by John Prichard and his partner Seddon, aided and abetted by Rossetti, beginning in the 1840s, and culminating with the rebuilding of the SW tower (1867-9). In 1941 a landmine seriously damaged the nave and south aisle. Post war restoration was undertaken by the fine and sensitive architect, George Pace, who added the St David chapel and reconstructed the nave in a manner that combined 20th century aspirations with a sensitivity to the Gothic legacy. His are the concrete parabolic arches supporting an organ case on which is set Epstein’s Christ in majesty. Associated with the Cathedral on the green are the remnants of a 13c bell tower, a nearby lych gate by Prichard and the Preaching Cross, which retains a 13th-century shaft. This was the traditional site of Archbishop Baldwin of Canterbury’s appeal to the Norman-French and Welsh to join the Third Crusade in 1188. LOC map CF5 2LA Bus 26, 62, 33 to Llandaff Village. Free parking nearby, cycle or walk the Taff trail. DIS Disabled parking and access. Follow signs from Cathedral green.
Eglwys Gadeiriol Llandaf
19 Medi taith 11, sgwrs 12 Mae Cyfeillion Eglwys Gadeiriol Llandaf yn cyflwyno taith tywys drwy 900 mlynedd o hanes, pensaernïaeth a phobl yn Eglwys Gadeiriol Llandaf gyda’r hanesydd Arthur Impey, a fydd yn cael ei ddilyn gan ddiweddariad ar yr organ o’r 21ain ganrif gan Richard Moorhouse, organydd yr Eglwys Gadeiriol a Meistr y Corwyr, sy’n cael ei hatgyweirio ar hyn o bryd.
Mae’r Eglwys Gadeiriol yn parhau i fod â gwaith hyfryd o’r canoloesoedd, er gwaethaf ei hanes o gael ei dinistrio a’i hailadeiladu. Ar safle eglwys Geltaidd, clas, mae’r gwaith Normanaidd yn dyddio o gyfnod Esgob Urban (1107-33). Esgob Urban (1107-33) a ddechreuodd adeiladu’r adeilad presennol. Iddo ef a’i olynyddion agosaf y mae’r ddyled am y bwa crwn cain y tu ôl i’r brif allor ac am y drysau gogleddol a deheuol. Mae canol yr eglwys a’r talcen gorllewinol, y tŵr deheuol a’r cabildy yn dyddio o’r 13 ganrif. Mae’r capel Mair yn dyddio o ddiwedd y 13 ganrif a’r tŵr gogleddol (neu “Jasper”) o gyfnod y Tuduriaid. Ar ôl y Diwygiad Protestannaidd, adfeiliodd yr Eglwys Gadeiriol, ac yn y 18 ganrif, ceisiodd John Wood ei hail fodelu’n glasurol. Cafodd y strwythur ei adfer gan John Pritchard a’i bartner Seddon, gyda chymorth Rossetti, a ddechreuodd yn y 1840au a chyrraedd ei benllanw gydag ail adeiladu’r tŵr de-orllewinol (1867-9). Cafodd canol yr eglwys a’r eil ddeheuol eu difrodi gan fom ym 1941. Fe’i hailwampiwyd ar ôl y rhyfel gan y pensaer gwych a sensitif, George Pace, a ychwanegodd y capel Dewi Sant, ac a ail-adeiladodd y corff mewn dull oedd yn cyfuno dyheadau’r 20fed ganrif gyda sensitifrwydd i’r etifeddiaeth Gothig. Ei waith ef yw’r bwâu parabolig concrid sy’n cynnal câs yr organ lle mae Crist Epstein wedi’i osod mewn gogoniant. Yn gysylltiedig â’r Eglwys Gadeiriol, ar y llain las, y mae olion clochdwr o’r 13 ganrif, llidiart y cyff cyfagos gan Pritchard a’r Groes Bregethu, sy’n dal â choes o’r 13 ganrif. Hwn oedd safle traddodiadol apêl Archesgob Baldwin o Canterbury i’r Normaniaid-Ffrengig a’r Cymry i ymuno â’r Trydydd Crwsâd yn 1188. LLEO map CF5 2LA Bws 26, 62, 33 i Bentref Llandaf. Mae maes parcio am ddim gerllaw, neu gallwch chi fynd ar feic neu gerdded ar hyd Llwybr Taf. ANB Mae llefydd parcio a mynediad i’r anabl. Dilynwch arwyddion o gaeau’r Eglwys Gadeiriol.

The Senedd
19, 20 Sep 10-5 Opened in 2006, the Senedd was designed by one of the world's leading architects, Lord Richard Rogers and has already scooped a clutch of awards for its superb design and environmental features.The building has been designed to achieve high standards of environmental performance and this can be seen throughout the building. The use of cutting-edge technologies means energy consumption and waste is minimised, turning the Senedd into one of the greenest public buildings in the UK. And as Wales marks the first decade of devolution, the building has become the focal point of a new Welsh Civic and political identity. The openness of the design reflects Wales' maturing democracy communicating the core democratic values of openness and participation. As part of the European Heritage Days Open Doors event visitors to the Senedd on September 19 and 20 will be able to find out how the building was constructed with a new display of images. They’ll also be able to take a peek at the ongoing work over at the Pierhead Building through another collection of images, take a guided tour of the Senedd and youngsters will also be able to enjoy a series of activities. LOC map
Y Senedd
19, 20 Medi 10 - 5 Cafodd y Senedd, a agorwyd yn 2006, ei gynllunio gan yr Arglwydd Richard Rogers, un o benseiri mwyaf blaengar y byd, ac mae eisoes wedi ennill llu o wobrau am ei gynllun gwych a’i nodweddion amgylcheddol. Cafodd ei gynllunio er mwyn sicrhau’r perfformiad amgylcheddol gorau posibl a gellir gweld tystiolaeth o hyn ym mhob cwr o’r adeilad. Mae’r defnydd o dechnolegau modern yn golygu mai ychydig iawn o ynni a ddefnyddir, ac ychydig iawn o wastraff a gaiff ei gynhyrchu hefyd, gan wneud y Senedd yn un o’r adeiladau cyhoeddus gwyrddaf yn y DU. Ac wrth i Gymru nodi degawd cyntaf datganoli, mae’r adeilad wedi dod yn ganolbwynt i hunaniaeth sifil a gwleidyddol Cymru. Mae cynllun agored yr adeilad yn adlewyrchiad o ddemocratiaeth aeddfed Cymru gan gyfleu’r gwerthoedd democrataidd craidd o fod yn agored ac o gymryd rhan. Fel rhan o ddigwyddiad Agor Drysau Diwrnodau Treftadaeth Ewropeaidd, bydd ymwelwyr â’r Senedd ar 19 a 20 Medi yn cael clywed am y gwaith o’i adeiladu gydag arddangosfa newydd o ddelweddau. Byddant hefyd yn gallu cael cipolwg ar y gwaith sy’n digwydd yn y Pierhead drwy gasgliad o ddelweddau eraill a mynd ar daith o amgylch y Senedd. Bydd cyfle i blant a phobl ifanc hefyd fwynhau cyfres o weithgareddau. LLEO map
St John the Baptist Church
26 Sep 10-4 St John’s Church was founded in the year 1180 and was extensively reconstructed in the 15th century when its magnificent Somerset-style tower was built. Victorian additions include a fine collection of stained glass. Of special interest is the Herbert chapel with the Herbert tomb and 16th century screen and late 19th century reredos. LOC map St John’s Church is located in the city centre of Cardiff, close to the indoor market and Hayes area. Access in the immediate vicinity is pedestrian only, but central Cardiff is well-served by bus and train services and has many car parks. DIS Disabled access to most parts of the church is via the South Entrance. There are stairs to the tea room but food can be served at tables on ground level on request.
Eglwys Sant Ioan y Bedyddiwr
26 Medi 10-4 Fe sefydlwyd Eglwys Sant Ioan yn y flwyddyn 1180, ac fe gafodd ei hailadeiladu’n helaeth yn y 15fed ganrif pan adeiladwyd ei thŵr yn steil Somerset. Mae ychwanegiadau Fictoraidd yn cynnwys casgliad hynod o wydr lliw. Mae capel Herbert o ddiddordeb arbennig, gyda bedd Herbert a sgrin o’r 16eg ganrif a reredos o’r 19eg ganrif. LLEO map M ae Eglwys Sant Ioan wedi’i lleoli yng nghanol dinas Caerdydd, yn agos i’r farchnad ac ardal yr Hayes. Dim ond ar droed yn unig y gellir cael mynediad uniongyrchol at yr eglwys, ond mae canol Caerdydd yn cael ei wasanaethu gan wasanaethau bws a thrên da iawn, ac mae sawl maes parcio ar gael. ANB Gellir cael mynediad anabl i’r rhan fwyaf o’r eglwys trwy Fynedfa’r De. Mae grisiau i’r ystafell de, ond gellir gweini bwyd ar y byrddau ar y lefel gwaelod pe gofynnir.
Parish Church of St. Margaret, Roath
19 Sep 12-5.30, 20 Sep 2-5.30 Guided tours of Church and Mausoleum, access to the Tower. Children’s Quiz Trail, Registers dating back to 1731, Historical display and Tombstone Recordings. A Grade I listed building, St Margaret’s was commissioned by the third Marquis of Bute and built in 1870 to designs by John Prichard, restorer of Llandaff Cathedral. The building includes stonework and memorials from the ancient church on the same site which was demolished in 1867. The tower was completed in 1927 to designs by John Coates Carter. Reredos by Ninian Comper, 1925. The towers provides an excellent viewpoint with unique views of Cardiff and beyond to the Glamorgan hills and the Somerset coast. The church contains the tombs of members of the Bute family, including the first Marquis, in a magnificent mausoleum built to designs by John Prichard between 1881 and 1886. The mausoleum contains fine carvings, mosaic and stained glass. DIS Ascent to tower is suitable only for able-bodied adults as this involves steep, narrow steps. Access to the tower will be subject to suitable weather conditions and numbers will be limited to parties of 20. LOC map CF23 5AD
Eglwys Blwyf Santes Margaret, Y Rhath
19 Medi 12-5.30, 20 Medi 2-5.30 Teithiau tywys o’r eglwys a’r mawsolëwm, mynediad i’r tŵr. Trywydd Cwis i Blant, cofrestri, arddangosfa hanesyddol a chofnodion cerrig beddi. Yn adeilad cofrestredig Gradd I, cafodd Eglwys Santes Margaret ei chomisiynu gan drydydd Marcwis Bute a’i hadeiladu ym 1870 yn ôl cynllun gan John Prichard, adnewyddwr Eglwys Gadeiriol Llandaf. Mae’r adeilad yn cynnwys gwaith carreg a chofebion o’r eglwys hynafol ar yr un safle a gafodd ei dymchwel ym 1867. Cwblhawyd y tŵr ym 1927 yn ôl cynlluniau gan John Coates Carter. Reredos gan Ninian Comper, 1925. Mae’n olygfan ardderchog, gyda golygfeydd unigryw o Gaerdydd a’r tu hwnt at fryniau Morgannwg ac arfordir Gwlad yr Haf. Mae beddrod aelodau teulu’r Bute, gan gynnwys y Marcwis cyntaf, yn yr eglwys mewn mawsolëwm godidog a gafodd ei adeiladu yn ôl cynlluniau gan John Prichard rhwng 1881 a 1886. Mae yn y mawsolëwm gerfiadau, mosäig a gwydr lliw hardd. ANB Esgyn i’r tŵr yn addas i oedolion abl yn unig gan fod grisiau serth, cul yno. Bydd mynediad i’r tŵr yn dibynnu ar amodau tywydd addas. a bydd niferoedd yn cael eu cyfyngu i bartïon o 20. LLEO map CF23 5AD
COWBRIDGE/Y BONTFAEN
Town Hall
19 Sep 11-4 The Council Chamber and Mayor’s Parlour will be open in conjunction with the Museum housed in the prison cells of the Town Hall. “Cowbridge New and Old” will be the theme for this year. Replica town stocks and civic regalia on display. LOC CF71 1AD DIS Note uneven floors In museum. Car park to rear of Town Hall.
Neuadd y Dref
19 Medi 11-4 Bydd Siambr y Cyngor a Lolfa’r Maer ar agor mewn cydweithrediad â’r Amgueddfa a leolir yng nghelliau carchar Neuadd y Dref. ANB sylwch ar y lloriau anwastad yn yr amgueddfa. Maes parcio tu ôl i Neuadd y Dref.
EWENNY/EWENNI
Ewenny Pottery
Mon-Sat through Sep 9.30-1, 2-5 Small pottery in the same family for eight generations. Makes traditional thrown pottery for the home. Records show a pottery industry in the area from 1427. The present potters are father and daughter, the eighth and ninth generations in the pottery, and can be viewed practising their craft in the workshop. LOC map CF35 5AP
Crochendy Ewenni
Dydd Llun-Dydd Sad drwy mis Medi 9.30-1, 2-5 Crochendy bychan yn yr un teulu am wyth cenhedlaeth. Mae’n creu crochenwaith traddodiadol ar gyfer y cartref. Mae cofnodion yn dangos bod diwydiant crochenwaith wedi bod yn yr ardal o 1427. Tad a merch yw’r crochenwyr presennol, yr wythfed a’r nawfed genhedlaeth, a gellir eu gweld nhw’n ymarfer eu crefft yn y gweithdy. LLEO map CF35 5AP
LLANTRISANT
Llantrisant Parish Church| new site 2009
12 Sep 10-4 12 Sep 10-4 One of three churches within the parish of Llantrisant (along with St David’s Church, Miskin and St Michael & All Angels Church, Beddau) the Parish Church dominates the skyline of Llantrisant and is found just off the Bull Ring in the historic part the town. The Church is dedicated to three saints: Illtyd, Gwynno and Dyfodwg. The site of Llantrisant Parish Church has been used for Christian worship for over 1300 years and the present building was built by the Earl of Glamorgan, Hugh de Spencer. The Church building, listed by Cadw, was rebuilt in Norman style around 1246 and underwent two further major restorations in the nineteenth century. A great deal of additional work has also been carried out since 1963. Within the building itself there are a number of points of interest. The east Window behind the altar features a stained glass picture of the Crucifixion depicting a beardless Christ, one of only three such windows known to exist. In addition to a font the building also features a baptistery where adults have the option of being baptised by total immersion. Finally behind the Lady Chapel Altar is the oldest item in the Church known as the 'Resurrection Stone'. This is a slab of grey stone with three crosses roughly scratched into the surface. The central cross is a Celtic Wheel cross and the stone is thought to originate from as far back as the 7th century. LOC map Access via Swan Street, Llantrisant.
Eglwys Blwyf Llantrisant | safle newydd 2009
12 Medi 10-4 Yn un o dair eglwys o fewn plwyf Llantrisant (ynghyd ag Eglwys Dewi Sant, Meisgyn & Eglwys Sant Mihangel a’r Holl Angylion, Beddau), mae’r Eglwys Blwyf yn dominyddu gorwel Llantrisant, ac mae hi wedi’i lleoli yn union oddi ar y Maes Ymladd Teirw yn rhan hanesyddol o’r dref. Mae’r eglwys wedi’i hymroddi i dri sant: Illtyd, Gwynno a Dyfodwg. Mae safle Eglwys Blwyf Llantrisant wedi cael ei ddefnyddio fel man i’r Cristnogion addoli am dros 1300 mlynedd, ac fe adeiladwyd yr adeilad presennol gan Iarll Morgannwg, Hugh de Spencer. Fe ail-adeiladwyd adeilad yr eglwys, sy’n rhestredig gan Cadw, mewn steil Normanaidd tua 1246, ac fe’i hadferwyd yn fawr ddwywaith yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Hefyd, mae llawer o waith ychwanegol wedi cael ei wneud ers 1963. Mae sawl pwynt o ddiddordeb o fewn yr adeilad ei hun. Ar y Ffenestr ddwyreiniol y tu ôl i’r allor y mae darlun gwydr lliw o’r Croesholiad yn dangos Crist di-farf, un o dair ffenestr yn unig o’r fath sydd wedi’u darganfod. Yn ogystal â bedyddfaen, mae gan yr adeilad hefyd fedyddfan lle mae dewis i oedolion gael eu bedyddio drwy drochiad cyflawn. Yn olaf, y tu ôl i Allor Capel Mair mae’r eitem hynaf yn yr eglwys, a elwir yn ‘Garreg yr Atgyfodiad’. Slab o garreg lwyd yw hon, gyda thri croes wedi’u crafu’n arw i’r arwyneb. Olwyn Geltaidd yw’r groes ganolog ac yn ôl pob tebyg, mae’r garreg yn tarddu o mor bell yn ôl â’r 7fed ganrif. LLEO map Mynediad trwy Stryd Swan, Llantrisant.
St David’s Church, Miskin| new site 2009
12 Sep 10-4 One of three churches within the parish of Llantrisant (along with Llantrisant Parish Church and St Michael & All Angels Church, Beddau) the present church, dedicated to St David was built in 1907 to replace a corrugated iron church which was built in 1878. Funds for the building of the church were raised by public donations and events, notably the Grand Fete at Miskin Manor which raised over £1,000. The church was licensed on 23rd December 1907 and later consecrated by Right Rev Timothy Rees, Bishop of Llandaff, on Sunday 23rd April 1933. One of the main features of the church is the beautiful stained-glass window dedicated to the Rhys-Williams family. Jessie Bayes, a friend of William Morris, and following in the Pre-Raphaelite tradition, designed the three most recent windows. In 2007 St David’s celebrated its centenary with various successful events, including an Open Day, Sponsored Hymn-Singing, a photographic competition and a Carol Service. Two booklets were produced, one about the history and another on the heraldry in the church. LOC map
© Copyright Mick Lobb and licensed for reuse under this Creative Commons Licence.
Eglwys Dewi Sant, Meisgyn | safle newydd 2009
12 Medi 10-4 Yn un o dair eglwys o fewn plwyf Llantrisant (ynghyd ag Eglwys Blwyf Llantrisant, & Eglwys Sant Mihangel a’r Holl Angylion, Beddau), fe adeiladwyd yr eglwys gyfredol, a gafodd ei hymroddi i Dewi Sant yn 1907, i ddisodli eglwys haearn rhychiog a adeiladwyd yn 1878. Fe godwyd arian ar gyfer adeiladu’r eglwys drwy roddion cyhoeddus a digwyddiadau, yn fwyaf enwog y Grand Fete ym Miskin Manor, lle codwyd dros £1,000 o bunnoedd. Fe drwyddedwyd yr eglwys ar 23ain Rhagfyr 1907, ac fe’i chysegrwyd yn ddiweddarach gan y Gwir Barchedig Timothy Rees, Esgob Llandaf, ar ddydd Sul, 23ain Ebrill 1933. Un o brif nodweddion yr eglwys yw’r ffenestr liw prydferth sydd wedi’i hymroddi i’r teulu Rhys-Williams. Fe ddyluniwyd y tair ffenestr fwyaf diweddar gan Jessie Bayes, ffrind William Morris, gan ddilyn y traddodiad Cyn-raffaelaidd. Yn 2007, fe ddathlodd Dewi Sant ei chanmlwyddiant gyda sawl digwyddiad llwyddiannus, gan gynnwys Diwrnod Agored, sesiwn Canu Emynau wedi’i noddi, cystadleuaeth ffotograffig a gwasanaeth Carolau. Fe gynhyrchwyd dau lyfryn, un ynghylch hanes ac un arall ar hierarchaeth yr eglwys. LLEO map
St Michael & all Angels Church, Beddau| new site 2009
12 Sep 12-2 One of three churches within the parish of Llantrisant (along with Llantrisant Parish Church and St David’s Church, Miskin) St. Michael's Church, or the Church of St. Michael and All Angels to give it its full title, was opened in 1936 and was initiated in the first instance by Lt. Colonel Sir Rhys-Williams and Lady Rhys-Williams of Miskin Manor. The building is most unusual, if not unique in appearance with what at the time was an ultra-modern design and an unconventional beauty all of its own. The tower sits unusually at the East end of the church rather than the traditional West end and is pierced with a cross. The only deviation from the church 'straight design' are two circular windows both of which incorporate the five pointed star of St. Michael to whom the church is dedicated. The church has white walls and blue draperies inside and both the design and colouring of it are intended to symbolise three things: namely the incarnation of Christ, the history of Mankind and the life of the individual. LOC map
Eglwys Sant Mihangel & Holl Angylion, Beddau | safle newydd 2009
12 Medi 12-2 Yn un o dair eglwys o fewn plwyf Llantrisant (ynghyd ag Eglwys Blwyf Llantrisant ac Eglwys Dewi Sant, Meisgyn), fe agorwyd Eglwys Sant Mihangel, neu Eglwys Sant Mihangel a’r Holl Angylion i roi ei theitl llawn iddi, yn 1936, ac fe’i hagorwyd i gychwyn gan yr Is-gyrnol Syr Rhys-Williams a’r Foneddiges Rhys-Williams o Miskin Manor. Mae’r adeilad yn anghyffredin iawn, os nad yn unigryw, o ran ei hymddangosiad, gyda beth oedd ar y pryd, yn ddyluniad modern iawn ac yn brydferthwch anghonfensiynol. Mae’r tŵr, yn anarferol, ar dalcen Dwyreiniol yr eglwys yn hytrach nag yn y pen Gorllewinol traddodiadol ac mae wedi’i dyllu â chroes. Yr unig wyriad o ‘ddyluniad syth’ yr eglwys yw dwy o ffenestri crwn, y ddwy yn cynnwys seren pum pigyn Sant Mihangel y mae’r eglwys wedi’i chysegru iddo. Mae gan yr eglwys waliau gwyn gyda dilladaeth glas, a bwriadwyd y byddai’r dyluniad a’i liwiau yn symbolau o dri pheth: yn benodol, ymgnawdoliad Crist, hanes Dynol Ryw a bywyd yr unigolyn. LLEO map
MERTHYR TYDFIL
Hen Dŷ Cwrdd
12 Sep 2-5, 13 Sep 3-7 (service at 6) The Hen Dy Cwrdd (Old Meeting House) stands within its walled graveyard at the centre of the village, just off the main road. Founded in 1747, as an offshoot of the Dissenting Congregation of Cwmglo (previously of Blaencanaid, c.1640), it is the oldest Nonconformist cause in the area. The chapel was rebuilt in 1853 and 1895. In 1991 it was re-erected using the masonry and fittings of the 1895 building and is an (almost) exact replica of that structure. The twin-aisled interior is galleried on three sides on cast iron columns and there is a high pulpit of ample dimensions against the far wall. The woodwork is of pitch pine. Lucy Thomas (Waunwyllt), ‘the mother of the Welsh Steam-Coal trade’, husband Robert, and a number of their descendants are buried in the graveyard. LOC map DIS Two steps at chapel entrance. The graveyard is unsuited to wheelchair access.
Yr Hen Dŷ Cwrdd, Capel yr Undodwyr, Old Chapel Road, Cefncoedycymer
12 Medi 2-5, 13 Medi 3-7 (service at 6) (gwasanaeth am6) Yr Hen Dy Cwrdd yw'r achos anghydffurfiol hynaf yn yr ardal. Codwyd y capel gwreiddiol, cangen o gynulleidfa anghydffurfiol Cwmglo (o Flaencannaid gynt), ym 1747 ac fe'i ailadeiladwyd ym 1853 a 1895. Ailgodwyd y capel ym 1991 gan ddefnyddio cerrig a ffitiadau adeilad 1895, ac mae bron yn gopi manwl o'r adeilad hwnnw. Mae'r tu mewn aleog â galerïau ar dair ochr ar golofnau o haearn bwrw ac mae pulpud uchel yn erbyn y mur pellaf. Ffawydd coch yw'r gwaith coed. ANL dau ris i'r fynedfa; mynediad i'r fynwent yn anaddas i gadair olwyn. LLEO map ANB Dau ris i'r fynedfa; mynediad i'r fynwent yn anaddas i gadair olwyn.
NEATH

Aberdulais Falls
12 Sep (National Trust) Famous waterfalls and industrial site with tinworkers exhibition. The largest waterwheel currently used in Europe to generate electricity; turbine house providing access to aninteractive display, fish pass and observation window. LOC map SA10 8EU
Rhaeadr Aberdulais
12 Medi (Ymddiriedolaeth Genedlaethol) Rhaeadrau enwog a safle diwydiannol gydag arddangosfa gweithwyr tun. Yr olwyn ddŵr fwyaf sy’n cael ei defnyddio’n Ewrop ar hyn o bryd i gynhyrchu trydan: tŷ tyrbin sy’n darparu mynediad i arddangosfa ryngweithiol, llwybr pysgod a ffenestr arsylwi. LLEO map SA10 8EU
PENARTH
Victoria Square Conservation Area, Penarth | new site 2009
6 Sep Guided walk at 2pm from Penarth Station Alan Thorne will lead this guided tour through ‘Coates Carter Land’. Discover the architectural heritage of Penarth through the arts and crafts legacy of John Coates Carter. The tour will end at Trinity Church, where refreshments will be available. LOC Meet outside Penarth Station, Station Approach for start of tour. Buses no 92 and 94 from Cardiff stop in Stanwell Road nearby. DIS The tour is suitable for wheelchair users and those who have difficulty walking. There is disabled access to Trinity where we will have refreshments at the end.
Ardal Gadwraeth Sgwâr Fictoria, Penarth | safle newydd 2009
6 Medi Taith gerdded tywys am 2yh o Orsaf Penarth Fe fydd Alan Thorne yn arwain y daith tywys yma trwy ‘Dir Coates Carter’. Gallwch ddarganfod treftadaeth bensaernïol Penarth trwy etifeddiaeth celfyddyd a chrefft John Coates Carter. Fe fydd y daith yn dod i ben yn Eglwys y Drindod, lle fydd lluniaeth ar gael. LLEO Cyfarfod tu allan i Orsaf Penarth, i gychwyn y daith. Mae bysiau rhif 92 a 94 o Gaerdydd yn stopio yn Ffordd Stanwell gerllaw. ANB Mae’r daith yn addas i ddefnyddwyr cadair olwyn ac i’r rhai hynny sy’n cael trafferth yn cerdded. Mae mynediad anabl i’r Drindod lle fyddwn ni’n cael lluniaeth ar y diwedd.
RHONDDA

Rhondda Heritage Park
12, 13 Sep Tours at 11, 1 and 3 (Pre-booking is advisable on 01443 682036). The Black Gold Tour features a fully guided tour with ex-miner guides and involved multimedia presentations, a tour of the pit head buildings and a trip ‘underground’ to experience the life of a coal miner. You can touch the machinery, hear the effects as explosives are detonated, smell and even taste the changing atmospheric conditions and humidity of life underground. As an exciting end to your tour you will be transported back to the surface on an amazing simulated ride where you are hurtled and catapulted through the dark and twisting tunnels. LOC CF37 2NP DIS Please be aware you will as part of your tour experience uneven ground, strobe lighting effects and a simulated ride, which is not recommended for pregnant women or those with back problems or heart complaints.Warm clothing and sensible footwear advised. Please allow at least 1½ hours for the underground tour. Height restrictions apply (persons under 1.1 metres may not ride. Children between 1.1 metres and 1.2 metres must be accompanied by an adult) contact 01443 682036 for information on access.
Parc Treftadaeth y Rhondda
12, 13 Medi Teithiau am 11, 1 a 3 (Dylid bwcio o flaenllaw drwy ffonio 01443 682036). Mae’r Daith Aur Du yn cynnwys taith tywys lawn gyda thywyswyr a oedd yn gyn lowyr ac sy’n cynnwys cyflwyniadau amlgyfrwng, taith o adeiladau’r pen pwll a thrip ‘o dan ddaear’ i brofi bywyd glöwr. Gallwch chi gyffwrdd yn y peirianneg, glywed yr effeithiau wrth i ffrwydron gael eu tanio, arogli a hyd yn oed blasu'r cyflyrau atmosfferig newidiol a’r lleithder bywyd o dan ddaear. Fel terfyn cyffrous i’r daith, fe fyddwch chi’n cael eich hebrwng yn ôl i’r arwyneb ar reid ffug hynod lle rydych chi’n cael eich taflu o un ochr i’r llall trwy’r twneli tywyll, troellog. LLEO CF37 2NP ANB Dylech chi fod yn ymwybodol y byddwch chi fel rhan o’r daith, yn cerdded ar dir anwastad, yn profi effeithiau golau strôb a reid ffug, sydd ddim yn cael ei argymell ar gyfer menywod beichiog neu’r rhai hynny sydd â phroblemau gyda’u cefn neu sy’n cwyno gyda’u calon. Fe gynghorir gwisgo dillad cynnes ac esgidiau cadarn. Mae cyfyngiadau o ran taldra (ni chaiff pobl o dan 1.1 metr fynd ar y reid. Mae rhaid i blant sydd rhwng 1.1 metr a 1.2 metr fynd ar y reid gydag oedolyn) Ffoniwch 01443 682036 am wybodaeth o ran mynediad.
SWANSEA/ABERTAWE
Swansea Open House programme
Rhaglen Tŷ Agored Abertawe |
MENU
|