logo

OPEN DOORS 2009 | DYDDIAU AGORED 2009
European Heritage Days in Wales | Dyddiau Treftadaeth Ewropeaidd yng Nghymru
Wales's biggest celebration of architecture and heritage | Dathliad pensaernïaeth a threftadaeth fwyaf Cymru

PROGRAMME/RHAGLEN | UK/DU & EUROPE/EWROP


 

Gwent

The Kymin

The Kymin (© National Trust)

handlist | llawrhestr pdf |doc

ABERGAVENNY/ABERGAVENNI


Cwm Farm Cider House, Llangattock Lingoed
5, 6 Sep 2-5 A purpose-built, recently conserved, and unusually complete Cider House built in 1754, surviving largely unaltered. The ground floor has rare 18c fittings including the cider mill drive shaft, a large circular stone trough, and stone mill wheel.  DIS/ACCESSParking in a field nearby, steps to upper floor of cider house. Stout footwear advised LOC Map NP7 8NP WEBwww.villagealivetrust.org.uk

Y Tŷ Seidr, Fferm Cwm, Llangatwg Lingoed
5, 6 Medi 2-5 Tŷ Seidr a godwyd yn bwrpasol yn 1754, a gafodd driniaeth gadwriaethol yn ddiweddar ond heb newid fawr ddim arno, ac sy'n anghyffredin o gyflawn. Ar y llawr isaf mae yna ffitiadau prin o ‘r 18G gan gynnwys siafft yrru'r felin seidr, cafn garreg gron, ac maen melin. ANB/MYNEDIAD Parcio mewn cae cyfagos, grisiau i lawr uchaf y tŷ seidr. Cynghorir cael esgidiau cryf. LLEO Map NP7 8NP GWEFAN www.villagealivetrust.org.uk.

St Cadoc's Church, Llangattock Lingoed
5-6 Sep 2-5 Talks on history of the church; teas. Beautifully restored, grade I medieval church set in lovely countryside. The church contains a 15c wall-painting of St George, discovered during the recent Restoration, which the Royal Commission on Ancient Monuments described as the find of the decade.  LOC NP7 8PR WEBwww.villagealivetrust.org.uk

Eglwys Cadog Sant, Llangatwg Lingoed
5, 6 Medi 2-5 Sgyrsiau ar hanes yr eglwys; te.  Eglwys ganoloesol gofrestredig Gradd I, a adferwyd yn hyfryd, mewn mangre wledig hardd. Mae ynddi furlun o’r 15G o Sant Siôr a ddarganfuwyd yn ystod yr adferiad diweddar, ac a ddisgrifiwyd gan y Comisiwn Henebion Brenhinol fel darganfyddiad y ddegawd.  LLEO NP7 8PR GWE www.villagealivetrust.org.uk

Great Trerhew Barn, Llanvetherine, near Cross Ash
5, 6 Sep 2-5 The great barn on Great Trerhew Farm is Grade II* and possibly the last barn of this quality remaining in agricultural use in the county, if not in south Wales. Of medieval origins and extended in the late 17th century, it has eight bays with two kingpost trusses, gabled additions with cider mill and press, cattle stalls, stable and haylofts with stone chaff bin. DIS no — the farm is a working farm, parking in a nearby field. Stout footwear needed.
LOC NP7 8PS WEB www.villagealivetrust.org.uk

Ysgubor Fawr Trerhew, Llanwytherin, ger Cross Ash 
5, 6 Medi 2-5 Mae’r ysgubor fawr ar Fferm Trerhew Fawr yn Radd II* ac o bosibl dyma’r ysgubor olaf  o’r fath ansawdd sy’n dal i gael defnydd amaethyddol yn y sir, os nad yn ne Cymru.  Mae’n tarddu o’r oesoedd canol a chafodd ei ymestyn ddiwedd yr 17G.  Mae ganddo wyth cowlas gyda dau drawst brenhinbost, ychwanegiadau talcennog gyda melin a gwasg seidr, corau gwartheg, stabl a llofft stabl gyda bin us carreg.   ANB dim - mae’r fferm yn fferm weithio, a gellir parcio mewn cae cyfagos.  Mae angen esgidiau cadarn.LLEO NP7 8PS GWE www.villagealivetrust.org.uk

New Inn Well House, Cross Ash| new site 2009
5, 6 Sep 2-5 Open afternoon at recently-restored 18th century well house of unusual triangular design, listed Grade 2.  LOC Map B4521 Abergavenny to Skenfrith, turn north in Cross Ash and travel to crest of hill and New Inn is on the left. NP7 8PE
Image © Village Alive Trust

Ffynhondy New Inn, Cross Ash | safle newydd 2009
5, 6 Medi 2-5 Prynhawn agored mewn ffynhondy o’r 18fed ganrif a ailwampiwyd yn ddiweddar, o ddyluniad  trionglog anarferol, sy’n rhestredig Gradd 2. LLEO Map B4521 Y Fenni i Skenfrith, trowch tua’r gogledd i Cross Ash a theithiwch i ben y bryn ac mae New Inn ar y chwith. NP7 8PE

Skenfrith Castle| new site 2009
12 Sep (National Trust) Remains of 13C castle beside River Monnow. Keep, curtain wall and towers. LOC  NP7 8UH

Castell Ynysgynwraidd | Safle newydd 2009
12 Medi (Ymddiriedolaeth Genedlaethol) Olion castell o’r 13G wrth ymyl Afon Mynwy. Gorthwr, llenfur a thyrau. LLEO  NP7 8UH

St Mary, Llanfair Cilgeddin
20 Sep 11-5 Grade I listed church now owned by the Friends of Friendless Churches, famous for the remarkable sequence of sgraffito plaster decorations by Heywood Sumner (1889). This simple medieval church was rebuilt in 1875-6 by the architect John Dando Sedding who carefully reused some of the original fabric. LOC OS SO 357 087 (3m N of Usk, NE of village of Llanfair Kilgeddin, by river) DIS fairly easy access

Eglwys y Santes Fair, Llanfair Cilgeddin
20 Medi 11-5
Eglwys gofrestredig Gradd I bellach yn eiddo Cyfeillion yr Eglwysi Digyfaill, yn enwog am gyfres o addurniadau plastr sgraffito gan Heywood Sumner (1889). Ailadeiladwyd yr eglwys seml ganoloesol hon yn 1875-6 gan y pensaer John Dando Sedding a fu’n ofalus i ail-ddefnyddio y deunydd gwreiddiol. LLEO SO 357 087 (3m G o Wysg, gog-ddw o bentref Llanfaircilgedin, ar bwys yr afon). ANB gweddol hawdd.

CHEPSTOW/CAS-GWENT

Gatehouse and town gate
19-20 Sep 9.30-4.30 Guided tours of the Gatehouse by costumed guides from the Chepstow Society who will attempt to reconstruct the atmosphere/history of the house in the 17th century. Visitors will also have access to the Council Chamber and to the Margaret Clayton room over the Town Gate, formerly the prison and original town museum. Neither is normally open to the public. LOC Map Park in the Welsh Street car park. The Gatehouse is in the centre of the town at the top of High St. DIS Has been recently refurbished and had a lift installed and is fully DDA compliant.

Porth Tref a Phorthdy
19-20 Medi 9.30-4. 30 Teithiau tywys o’r Porthdy gan dywyswyr mewn gwisg o Gymdeithas Cas-gwent, a fydd yn ceisio ail-greu awyrgylch/hanes y tŷ yn y 17eg ganrif.  Fe fydd ymwelwyr hefyd, yn cael mynediad i Siambr y Cyngor ac i ystafell Margaret Clayton dros y Porthdy, a oedd gynt y carchar ag amgueddfa wreiddiol y dref.  Nid yw’r un o’r ddau ar agor fel arfer i’r cyhoedd. LLEO Map Parcio ym maes parcio Welsh Street. Mae’r Porth Tref yng nghanol y dref ar dop y Stryd Fawr.  ANB Mae wedi cael ei ailwampio’n ddiweddar ac mae lift wedi cael ei osod ynddo, ac mae’n cydymffurfio’n llwyr â’r Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd.

© Copyright Colin Park and licensed for reuse under this Creative Commons Licence.

GROSMONT

St Nicholas| new site 2009
19 Sep 9-6 The church, a Norman garrison church with Early Gothic carvings, dates to the 12th Century and is rare among Welsh Churches. French in plan, the church is cruciform with an octagonal tower and long sweeping nave roof enclosing the aisles. LOC Map NP7 8EP

Sant Nicholas| safle newydd 2009
19 Medi 9-6 Mae’r eglwys, sy’n eglwys garsiwn Normanaidd gyda cherfiadau Gothig Cynnar, yn dyddio yn ôl i’r 12 ganrif, ac mae’n anghyffredin ymysg Eglwysi Cymru.  Yn Ffrengig o ran cynllun, mae’r eglwys ar ffurf croes gyda thŵr wyth ochr a tho hir yn ysgubo dros gorff yr eglwys ac yn amgáu’r eiliau. LLEO Map NP7 8EP

MONMOUTH

The Kymin
12, 13 Sep 11-4 A National Trust site, this landmark hill is topped by two interesting Georgian buildings; the two-storey circular Georgian banqueting house and naval temple, opened in 1801 as a monument to contemporary admirals, including Nelson. Hilltop grounds have spectacular views of the surrounding countryside. The property also lies on the Offa’s Dyke path, and is central to numerous footpaths in all directions.LOC NP25 3SE/SO 527 125 sign posted off the A4136 Monmouth to Coleford road, about 2 miles from Monmouth. No coach access. DIS Inside, spiral staircase to first floor, wheelchair access to ground floor. Disabled parking.

Y Kymin
12, 13 Medi 11-4 Safle’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol . Bryn tirnod gyda dau adeilad Georgaidd diddorol ar ei ben.  Tŷ gwledda crwn Georgaidd dwy lawr a theml forol a agorwyd yn 1801 fel cofeb i lyngeswyr cyfoes, gan gynnwys Nelson.  Tiroedd pen bryn gyda golygfeydd gwych o’r cefn gwlad amgylchynol. Mae’r eiddo hefyd yn gorwedd oddi ar lwybr Clawdd Offa, ac mae’n ganolog ar gyfer sawl llwybr cerdded i bob cyfeiriad. LLEO NP25 3SE wedi’i arwyddo oddi ar yr A4136 Mynwy i Coleford, tua 2 filltir o Fynwy. Dim yn addas i fysys. DIS Tu fewn, grisiau troellog i’r llawr cyntaf, mynediad i gadeiriau olwyn i’r llawr gwaelod.  Parcio i’r anabl.

Cornwall House, 58 Monnow Street
12, 13 September 2 – 5 (John Wheelock and Jane Harvey; Monmouth Civic Society) Splendid 18c town house built for the Duke of Beaufort's Agent; fine Georgian frontage to the street, and brick facade of 1752 to rear. LOC Map DIS Stone steps to the front door and interior staircase.

Cornwall House, 58 Stryd Mynwy
12, 13 Medi 1400-1700
(John Wheelock a Jane Harvey; Cymdeithas Ddinesig Trefynwy) Tŷ tref ysblennydd o'r 18G a adeiladwyd ar gyfer Asiant Dug Beaufort; tu blaen Sioraidd hardd i'r stryd a ffasâd bric o 1752 yn y cefn . LOC Map ANB

Methodist Church, St James Street
12, 13 Sep 1400-1700 An architectural gem built in 1837 to the design of local architect G.V. Maddox, who also designed the Market Hall and Priory Street. Three-bay pedimented façade, stuccoed, with recent elegant colour scheme. The classical galleried interior is superb. LOC Map DIS Steps at front entrance but has wheelchair access.

Yr Eglwys Fethodistaidd, St James Street
12, 13 Medi 1400 – 1700
Gem bensaernïol a adeiladwyd ym 1837 i gynllun pensaer lleol, G.V. Maddox, a gynlluniodd y Neuadd Farchnad a Priory Street hefyd. Ffasâd tri chilfach pedimentog wedi'i blastro, gyda chynllun lliw cain diweddar. Mae'r tu mewn orielog clasurol yn wych. LLEO Map ANB Grisiau yn y fynedfa ffrynt ond mae mynediad i gadeiriau olwyn ar gael.


© Copyright RAY JONES and licensed for reuse under this Creative Commons Licence.

The Monmouth Museum, Market Hall, Priory Street
12 Sep 11 – 1 & 2 – 5; 13 Sep 2 - 5
(Monmouth Civic Society; Monmouth County Council) The museum houses a fine collection of Lord Nelson's relics. The collection was bequeathed to the town by Lady Llangattock, the mother of the Hon Charles Rolls, co-founder of the Rolls-Royce company and pioneer airman, whose life story is also a feature of the museum. LOC Map DIS On ground floor, but one internal staircase

Amgueddfa Trefynwy, Market Hall, Stryd y Priordy
12 Medi 1100 – 1300 &  1400 - 1700, 13 Medi 1400 – 1700 (Cymdeithas Ddinesig Sir Fynwy; Cyngor Sir Fynwy) Mae casgliad da o greiriau'r Arglwydd Nelson yn yr amgueddfa. Gwaddolwyd y casgliad i'r dref oddi wrth Arglwyddes Llangattock, sef mam yr Anrhydeddus Charles Rolls, un o gyd-sefydlwyr cwmni Rolls-Royce ac awyrennwr arloesol; ceir hanes ei fywyd ef hefyd yn yr amgueddfa. LLEO Map
ANB Ar y llawr gwaelod, ond mae un set o risiau tu mewn

St Mary's RC Church, St Mary's Street
12, 13 Sep 1400-1700 Built in 1793, this is the oldest post-Reformation Catholic public place of worship in Wales. It was originally hidden by three cottages, but became the church we see today in 1888. It houses the relics of St John Kemble (1599-1679), whose grave is in the parish. There are other interesting and ancient artefacts. LOC Map

Eglwys Priordy’r Santes Fair, Heol y Priordy  
12, 13 Medi 1400-1700
Cysegrwyd yr eglwys ym 1101, a chafodd ei ail-gynllunio ym 1881 gan G.E. Street, pensaer y Llysoedd Barn yn Llundain. Ychwanegiad diweddar yw’r Forwyn a’r Plentyn wedi’u cerfio mewn dull traddodiadol o garreg Fforest y Ddena. LLEO Map

Masonic Hall, Monk St
12, 13 Sep 2-5 Originally a theatre, this was converted to a Masonic Hall in 1841 at the request of the Rolls family. The architect was G V Maddox, who installed a new facade similar to that designed for the Methodist Church. The foyer and gallery have been retained.

Neuadd y Seiri Rhyddion, Monk St
12, 13 Medi 2-5 Theatr oedd yr adeilad yn wreiddiol, a chafodd ei droi’n Neuadd Seiri Rhyddion ym 1841 ar gais teulu’r Rolls.  G V Maddox oedd y pensaer; gosododd ffasâd newydd yn debyg i’r un a gynlluniwyd ar gyfer yr Eglwys Fethodistaidd. Mae’r llawr a’r oriel wedi cael eu cadw'r un fath.

Monnow Bridge
12, 13 Sep 2 - 5 (Monmouth Town Council) Sole survival in Britain of a gate-tower on a bridge at the entry to a town. The bridge was built in the late 13c, and the gate-tower constructed as part of a system of town walls and gates erected between 1297 and 1315. Wall-head and hipped roof of early 18c replacing original battlements, when gatehouse accommodation was made two-storeyed. LOC Map DIS Limited access by narrow staircase

Pont Mynwy
12, 13 Medi 1400-1700 (Cyngor Tref Trefynwy) Yr unig dŵr-porth ar ben pont wrth fynedfa i dref sydd ar ôl ym Mhrydain. Codwyd y bont yn niwedd yr 13G, a'r tŵr fel rhan o system o furiau a chlwydi'r dref rhwng 1297 a 1315. Pen-mur a thalcendo o ddechrau’r  18G yn disodli'r bylchfuriau gwreiddiol, pan wnaed y clwyty'n ddeulaw.LLEO Map ANB mynediad wedi’i gyfyngu trwy risiau cul

© Copyright Philip Halling and licensed for reuse under this Creative Commons Licence.

The Priory, Priory St
12, 13 Sep 1400-1700 (St Mary's PCC and Monmouth Civic Society) This building, part of the original Priory Church, contains an oriel window dedicated to Geoffrey of Monmouth. The interior has been extensively redesigned, with the help of the Heritage Lottery Fund, to provide a Community Centre for the church and the town. LOC Map

Y Priordy, Priory St
12, 13 Medi 1400-1700 (Cymdeithas Ddinesig Sir Fynwy; Cyngor Sir Fynwy) Mae’r adeilad yma, sy’n rhan o’r Eglwys Priordy gwreiddiol, yn cynnwys ffenestr oriel sydd wedi’i ymroddi i Geoffrey o Fynwy. Mae’r tu fewn wedi cael ei ailwampio’n sylweddol, gyda chymorth gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, i ddarparu Canolfan Gymunedol ar gyfer yr eglwys a’r dref. LLEO Map

reg
© Copyright Eirian Evans and licensed for reuse under this Creative Commons Licence.

Castle and Regimental Museum, King Henry V Garden, Great Castle House
12, 13 Sep 2-5 (Royal Monmouthshire Royal Engineers and Monmouth Civic Society) The ruins of the Great Hall and Great Tower survive. The latter is 12c, a smaller version of the keep at Chepstow. The Hall may have been build ca 1267. Great Castle House was built in 1674 by the third Marquis of Worcester from the ruins of the medieval castle, which was the birthplace of Henry V. The house contains an astonishing interior, with remarkable ornate plaster ceilings and decorated walls. The first-floor rooms were joined together about 1700 to house the Assizes. The museum is associated with the history of the RMRE who in 1996 celebrated the centenary of the award of the two “Royals” in their title. The garden has a commanding view of the Black Mountains and contains species of plants that would have been found at the time of Henry V. LOC Map

Y Castell a'r Amgueddfa Gatrodol, Gardd Harri'r Pumed, Great Castle House
12, 13 Medi 1400-1700(Peirianwyr Brenhinol Sir Fynwy Frenhinol a Chymdeithas Ddinesig Trefynwy).  Mae adfeilion y Neuadd Fawr a'r Tŵr Mawr yn goroesi. Mae'r olaf o'r 12G, ac yn fersiwn llai o orthwr Cas-gwent. Dichon i'r Neuadd gael ei hadeiladu tua 1267. Adeiladwyd y Great Castle House ym 1674 gan drydydd Marcwis Worcester o adfeilion y castell canoloesol, lle ganwyd Harri'r Pumed. Mae'r tŷ'n cynnwys tu mewn rhyfeddol, gyda nenfydau plastr a muriau addurnedig. Cysylltwyd ystafelloedd y llawr cyntaf oddeutu 1700 i gynnal y Brawdlysoedd. Mae'r amgueddfa'n gysylltiedig â hanes y PBSFB a ddathlodd ym 1996, ganmlwyddiant ennill y ddau deitl “Frenhinol” yn ei enw. Ceir golygfa aruchel o'r Mynyddoedd Du o'r ardd a cheir ynddi rywogaethau o blanhigion a oedd yno adeg Harri'r Pumed. LLEO Map

Baptist Chapel, Monk Street
12, 13 September 2 – 5 This church replaced a smaller one on another site in 1908 and has been renovated and modernised as part of the centenary celebrations. The interior has been transformed and now is an inviting and comfortable place of worship. A multi-purpose meeting room has been constructed on the ground floor and a lift installed to make the church disabled friendly. LOC Map

Capel y Bedyddiwr, Monk Street
12, 13 Medi 1400 – 1700 Mae’r eglwys hon yn cymryd lle un llai ar yr un safle yn 1908, ac mae wedi cael ei ailwampio a’i moderneiddio fel rhan o’r dathliadau canmlwyddiant.  Mae’r tu fewn wedi cael ei drawsnewid a nawr, mae’n lle addoli croesawgar a chysurus. Mae ystafell gyfarfod amlbwrpas wedi cael ei adeiladu ar y llawr gwaelod, ac mae lifft wedi cael ei osod i wneud yr eglwys yn le sy’n addas i’r anabl. LLEO Map

Nelson Garden| new site 2009
12, 13 September 2 – 5 A garden where in 1802 Admiral Horatio Nelson and his Party were entertained to tea by Civic Dignitaries. A summer house containing Nelson’s Seat was built to commemorate the event. LOC Corner of Chippenham Mead, Monmouth. DIS Steps at entrance into garden.

Gardd Nelson | safle newydd 2009
12, 13 Medi 2 - 5 Gardd lle, yn 1802, fe wnaeth y Llyngesydd Horatio Nelson a’i Barti gael eu gwahodd i de gan Ŵyr Pwysig Dinesig. Fe adeiladwyd tŷ haf a oedd yn cynnwys Sedd Nelson, i goffáu’r digwyddiad. LLEO Cornel Chippenham Mead, Trefynwy. ANB Grisiau wrth y mynediad i’r ardd.

NEWPORT



Malpas Court
26, 27 Sep 10 -4 Malpas Court is a Tudor Style mansion building built between 1836 and 1838 for Thomas Prothero, agent to the Morgan family of Tredegar House. The event will include an exhibition about the buildings, its historical development and its recent restoration. LOC NP20 6AD M4 junction 26, follow the A4051 Malpas Road, turn left at traffic lights onto Whittle Drive, continue onto Oliphant Circle.

Malpas Court
26, 27 Medi 10-4 Manordy yn steil y Tuduriaid yw Malpas Court a adeiladwyd rhwng  1836 ac 1838 ar gyfer Thomas Prothero, asiant i’r teulu Morgan o Dŷ Tredegar.  Fe fydd y digwyddiad yn cynnwys arddangosfa ynghylch yr adeiladau, ei ddatblygiad hanesyddol a’i adferiad diweddar.  LLEO NP20 6AD M4 cyffordd 26, dilynwch yr A4051 Malpas Road, trowch i’r chwith ger y goleuadau traffig i Whittle Drive, ac ewch ymlaen ar hyd  Oliphant Circle.

 

USK

St Madoc,  Llanmadoc
19, 20 Sep 11-4 (Sun Harvest evensong 3) Fine parish church of largely 13c date on Celtic site, altered in 14c and 15c (tower, wagon roof). The only Welsh church dedicated to Madoc. Restored by Prichard in Decorated style to conform with principles of the liturgical movement. LOC NP15 1SX. On W bank of Usk, 400m S of Usk Bridge. DIS four steps down from main door, ramp available. Parking nearby at riverside.

Eglwys Madog, Llanbadog Fawr
19, 20 Medi 11-4 (Gosber y cynhaeaf, Sul 3) Eglwys blwyf hardd o’r 13G yn bennaf ar safle Celtaidd, wedi’i haddasu yn y 14 a’r 15G. (tŵr, crymdo). Yr unig Eglwys Gymreig sydd wedi ei hymroddi i Madog. Adnewyddwyd gan Prichard yn y dull addurnedig i gyd-fynd ag egwyddorion y mudiad litwrgïaidd. LLEO NP15 1SXar lan gorll. yr Wysg, 400m De o’r bont. ANB Pedwar gris i lawr o’r prif borth; ramp ar gael. Parcio ger ochr yr afon.

© Copyright Philip Halling and licensed for reuse under this Creative Commons Licence.

 

 

 

MENU

map