Cysylltiadau
Ffurflenni
y gwobrau (pdf 514kb)
2004 Local Design Awards (brochure,
pdf: 314kb) | story
Cyngor technegol
Goresgyn y Rhwystrau: Darparu Mynediad
Corfforol i Adeiladau Hanesyddol (ar
y wefan Cadw )

|
Gwahoddiad
i enwebu prosiectau
Gwobrau Dylunio
Lleol
Gwobrau Mynediad Cadw 2005-6
Gwahoddir
Cymdeithasau Dinesig i enwebu prosiectau a gwblhawyd yn ddiweddar
ar gyfer rownd 2005-6 Gwobrau Dylunio leol. Ochr yn ochr â hyn fe’u gwahoddir i enwebu
prosiectau a lwyddodd i ddod o hyd i atebion llwyddiannus a newydd
o bosibl i fynediad mewn adeiladau hanesyddol ar gyfer gwobrau
newydd Gwobrau Mynediad Cadw. Fe’u hanogir i gydweithio â grwpiau
mynediad lleol a swyddogion mynediad awdurdodau lleol (a all
hwythau gyflwyno prosiectau yn annibynnol yn ogystal) i baratoi
enwebiadau ar gyfer Gwobrau Mynediad Cadw. Gellir cyflwyno prosiect
ar gyfer y naill neu’r llall neu’r ddwy wobr. Mae’r
cynllun hwn yn adeiladu ar gynllun peilot 2003-4 (pdf
314kb) a lwyddodd
i gael cymdeithasau dinesig i fod yn rhan o ddathlu dylunio lleol
da – dylunio sy’n ymateb i’r cyd-destun lleol
mewn ffordd sy’n gosod safon i’w hefelychu yn y gymuned.
Meini Prawf: Gwobrau Dylunio Lleol
Mae’r meini prawf ar gyfer y Gwobr
Dylunio yn cyfateb i’r rhai a osodwyd yn 2004.
- Mae’r gwobrau’n dathlu dylunio
lleol da a werthuswyd gan bobl leol.
- Gellir enwebu’r
rhan fwyaf o fathau a maint o brosiect; gall y ceisiadau gynnwys
adeiladau newydd yn ogystal â phrosiectau sy’n
parchu cymeriad adeiladau hŷn. Gall cynllun cadwraeth
olygu newidiadau mawr neu adnewyddu gofalus ar fanylion.
- Dylai
prosiectau ymateb i’r cyd-destun a’r cymeriad lleol
a gallant ddangos atebion arloesol neu gyfoes o ran y dyluniad.
- Dylai prosiectau ymateb i anghenion y defnyddwyr
a lle bo hynny’n
berthnasol, gyfrannu at amgylchedd sy’n gynaliadwy, yn
fwynhad, yn ddiogel ac yn sicr.
- Dylai prosiectau fod wedi’u
gorffen ers mis Medi 2000
- Gall cymdeithasau ystyried cyflwyno
prosiectau a enillodd gydnabyddiaeth trwy eu cynlluniau gwobrwyo
hwy eu hunain.
Adolygir yr enwebiadau a phenderfynir ar y
gwobrau gan banel o blith bwrdd yr Ymddiriedolaeth, gan gynnwys
aelodau a etholwyd gan gymdeithasau dinesig. Bydd pob cynllun
a fydd, ym marn y panel, yn cyfateb yn llwyddiannus i’r
meini prawf yn derbyn gwobrau.
Meini Prawf: Gwobrau Mynediad Cadw
Noddir y cynllun hwn gan Cadw,
adain amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cynulliad Cymru. Gall cymdeithasau
dinesig neu fudiadau perthnasol eraill gan gynnwys grwpiau mynediad
lleol, gynnig enwebiadau. Dylai prosiectau fod wedi llwyddo i roi
sylw i broblem darparu mynediad i bobl anabl i adeiladau hanesyddol
y mae’r cynllun
yn eu diffinio yn rhai rhestredig neu mewn ardal gadwraeth. Gallwn
gysylltu’r cymdeithasau hynny sydd â diddordeb mewn
enwebu, â grwpiau mynediad lleol a staff ymgynghorol awdurdodau
lleol ac i’r gwrthwyneb. Asesir yr enwebiadau gan banel
a fydd yn cynnwys cynrychiolydd o Anabledd Cymru ac arbenigwr
Cadw ar fynediad. Bydd y cynlluniau llwyddiannus yn adlewyrchu’r
egwyddorion yn Goresgyn y Rhwystrau, sef arweiniad Cadw
ar fynediad. Mae copïau ar gael oddi wrth Cadw drwy’r
post neu ar wefan
Cadw. Cadw
fydd yn rhoi’r Gwobrau Mynediad.
|