
Ymddiriedolaeth Ddinesig Cymru | IHBC | Cadw
Venue Cymru, Llandudno
23 Hydref 2008
NODYN I’R DYDDIADUR
rhaglen amlinellol/ffurflen archebu (pdf) |
ffurflen archebu electroneg |
rhaglen (pdf)
Digwyddiad arbennig i’r sector amgylchedd hanesyddol a chyfle i aelodau o sefydliadau gwirfoddol yn ogystal â gweithwyr proffesiynol yn y sectorau cyhoeddus, preifat a’r drydedd sector i drafod blaenoriaethau o fewn polisi a strategaeth yr amgylchedd hanesyddol.
Mae Treftadaeth 2oo8/2, sy’n cael ei gynnal yn Llandudno ar 23 Hydref yn dilyn digwyddiad bywiog a chynhyrchiol iawn yng Nghaerdydd ym mis Ebrill ac yn sicrhau bod y drafodaeth yn cyrraedd pob rhan o Gymru. Wedi ei drefnu mewn partneriaeth â Cadw, gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cynulliad Cymru, bydd y gynhadledd yn edrych ar welliant gyda Datganiad Strategol Amgylchedd Hanesyddol a diwygiad deddfwriaeth diogelu treftadaeth.
Bydd y Gweinidog dros Dreftadaeth Alun Ffred Jones, AC yn siarad am ei flaenoriaethau ar gyfer yr amgylchedd hanesyddol a thrafod y materion gyda chyfranogwyr.
Yn y gweithdai bydd cyfle i drafod cyfathrebu, partneriaethau a sialensiau. Bydd yr allbwn o’r gweithdai yn datblygu’r syniadau ddaeth i’r golwg yng nghynhadledd mis Ebrill, gyda chyfle i gynnig pwyntiau gweithredu i’r llywodraeth a’r sector wirfoddol.
Cynhelir Treftadaeth yn Venue Cymru, Llandudno rhwng 10 y bore a 4 y prynhawn. Pris mynediad i’r gynhadledd yw £10 (sector wirfoddol) a £40 (sector gyhoeddus a preifat).
Treftadaeth 1 30 April 2008
Gweithdai a sesiwn lawn (pdf 119kb)
Mae nifer y llefydd yn gyfyngedig felly bydd llefydd yn cael eu neilltuo yn ôl y galw, pan dderbynnir taliad wrth siec neu archeb. Cysylltwch â ni drwy admin[at]civictrustwales.org.